1 Gwelais arwydd arall yn y nef, un mawr a rhyfeddol: saith angel a chanddynt saith bla � y rhai olaf, oherwydd ynddynt hwy y cwblhawyd digofaint Duw. 2 Gwelais rywbeth tebyg i f�r o wydr, a th�n yn gwau drwyddo, ac yn sefyll ar y m�r o wydr gwelais orchfygwyr y bwystfil a'i ddelw a rhif ei enw, yn dal telynau Duw. 3 Yr oeddent yn canu c�n Moses, gwas Duw, a ch�n yr Oen: "Mawr a rhyfeddol yw dy weithredoedd, O Arglwydd Dduw hollalluog; cyfiawn a gwir yw dy ffyrdd, O Frenin y cenhedloedd. 4 Pwy nid ofna, Arglwydd, a gogoneddu dy enw? Oherwydd tydi yn unig sydd sanctaidd. Daw'r holl genhedloedd ac addoli ger dy fron, oherwydd y mae dy farnedigaethau cyfiawn wedi eu hamlygu." 5 Ar �l hyn edrychais, ac agorwyd teml pabell y dystiolaeth yn y nef. 6 Ac allan o'r deml daeth y saith angel yr oedd y saith bla ganddynt. Yr oeddent wedi eu gwisgo � lliain disgleirwych, a gwregys aur am eu dwyfron. 7 Yna rhoddodd un o'r pedwar creadur byw saith ffiol aur i'r saith angel, yn llawn o lid Duw, yr hwn sy'n byw byth bythoedd. 8 Llanwyd y deml � mwg gan ogoniant Duw a'i allu ef, ac ni allai neb fynd i mewn i'r deml hyd nes cwblhau saith bla y saith angel.