Welsh

Revelation

16

1 Clywais lais uchel o'r deml yn dweud wrth y saith angel, "Ewch ac arllwyswch ar y ddaear saith ffiol llid Duw." 2 Aeth y cyntaf ac arllwys ei ffiol ar y ddaear; a chododd cornwydydd drwg a phoenus ar y rhai yr oedd nod y bwystfil arnynt ac a oedd yn addoli ei ddelw. 3 Arllwysodd yr ail ei ffiol i'r m�r; a throes y m�r yn debyg i waed corff marw, a bu farw popeth byw oedd yn y m�r. 4 Arllwysodd y trydydd ei ffiol i'r afonydd ac i ffynhonnau'r dyfroedd; a throesant yn waed. 5 Yna clywais angel y dyfroedd yn dweud: "Cyfiawn ydwyt, yr hwn sydd a'r hwn oedd, y sanctaidd Un, yn y barnedigaethau hyn. 6 Oherwydd iddynt dywallt gwaed saint a phroffwydi, rhoddaist iddynt hwythau waed i'w yfed; dyma eu haeddiant." 7 Yna clywais yr allor yn dweud: "Ie, O Arglwydd Dduw hollalluog, gwir a chyfiawn yw dy farnedigaethau." 8 Arllwysodd y pedwerydd angel ei ffiol ar yr haul; a rhoddwyd iddo hawl i losgi pobl � th�n. 9 Llosgwyd pobl yn enbyd, ond cablu a wnaethant enw Duw, yr hwn sydd ganddo awdurdod ar y pl�u hyn; ni bu'n edifar ganddynt ac ni roesant ogoniant iddo. 10 Arllwysodd y pumed ei ffiol ar orsedd y bwystfil; a daeth tywyllwch ar ei deyrnas ef. Yr oedd pobl yn cnoi eu tafodau gan boen, 11 ac yn cablu enw Duw'r nef o achos eu poenau a'u cornwydydd, ond ni bu'n edifar ganddynt am eu gweithredoedd. 12 Arllwysodd y chweched ei ffiol ar yr afon fawr, afon Ewffrates; a sychodd ei dyfroedd hi i baratoi ffordd i'r brenhinoedd o'r dwyrain. 13 Gwelais yn dod allan o enau'r ddraig ac o enau'r bwystfil ac o enau'r gau broffwyd dri ysbryd aflan, tebyg i lyffaint; 14 oherwydd ysbrydion cythreulig oeddent, yn gwneud arwyddion gwyrthiol. Ac aethant allan at frenhinoedd yr holl fyd i'w casglu ynghyd i ryfel ar ddydd mawr Duw, yr Hollalluog. 15 (Wele, rwy'n dod fel lleidr. Gwyn ei fyd y sawl sy'n effro, a'i ddillad ganddo'n barod, rhag iddo fynd o amgylch yn noeth a'i weld yn ei warth.) 16 Ac felly casglasant y brenhinoedd ynghyd i'r lle a elwir mewn Hebraeg, Armagedon. 17 Arllwysodd y seithfed ei ffiol ar yr awyr; a daeth llais uchel o'r deml, o'r orsedd, yn dweud, "Y mae'r cwbl ar ben!" 18 Yna bu fflachiadau mellt a su373?n taranau; bu hefyd ddaeargryn mawr, na ddigwyddodd ei debyg o'r blaen yn hanes y ddynolryw ar y ddaear gan mor fawr ydoedd. 19 Holltwyd y ddinas fawr yn dair rhan, a syrthiodd dinasoedd y cenhedloedd. Cofiodd Duw Fabilon fawr, a rhoi iddi gwpan gwin llid ei ddigofaint. 20 Ciliodd pob ynys, a diflannodd y mynyddoedd o'r golwg. 21 Ac ar bobl disgynnodd o'r awyr genllysg mawr, yn pwyso tua phedwar cilogram ar ddeg ar hugain yr un; ond cablu Duw a wnaethant am bla'r cenllysg, gan mor llym oedd y pla hwnnw.