1 Yna daeth un o'r saith angel yr oedd y saith ffiol ganddynt, a siarad � mi. "Tyrd yma," meddai, "dangosaf iti'r farn ar y butain fawr sy'n eistedd ar lawer o ddyfroedd. 2 Gyda hi y puteiniodd brenhinoedd y ddaear, ac ar win ei phuteindra y meddwodd trigolion y ddaear." 3 Yna cludodd fi yn yr Ysbryd i anialwch. Gwelais wraig yn eistedd ar fwystfil ysgarlad ag enwau cableddus drosto i gyd, a chanddo saith ben a deg corn. 4 Yr oedd y wraig wedi ei gwisgo � phorffor ac ysgarlad, a'i thec�u � thlysau aur, � gemau gwerthfawr ac � pherlau. Yn ei llaw yr oedd ganddi gwpan aur yn llawn o ffieidd-dra ac aflendid ei phuteindra hi. 5 Ac ar ei thalcen yr oedd enw wedi ei ysgrifennu, ac ystyr dirgel iddo: "Babilon fawr, mam puteiniaid a ffiaidd bethau'r ddaear." 6 Gwelais y wraig yn feddw ar waed y saint ac ar waed tystion Iesu. Wrth edrych arni, rhyfeddais yn fawr iawn. 7 Gofynnodd yr angel imi, "Pam yr wyt yn rhyfeddu? Fe esboniaf fi iti ddirgelwch y wraig a'r bwystfil sy'n ei chario, y bwystfil y mae'r saith ben a'r deg corn ganddo. 8 Ynglu375?n �'r bwystfil a welaist, yr oedd yn bod, ac nid yw'n bod, ond y mae ar fin codi o'r dyfnder a mynd i ddistryw. Bydd trigolion y ddaear, y rhai nad yw eu henwau'n ysgrifenedig yn llyfr y bywyd er seiliad y byd, yn rhyfeddu o weld y bwystfil; oherwydd yr oedd yn bod, ac nid yw'n bod, ac y mae i ddod. 9 Yma y mae angen meddwl � gwelediad ganddo: y saith ben, saith mynydd ydynt, ac arnynt y mae'r wraig yn eistedd. 10 A saith brenin ydynt hefyd; y mae pump wedi syrthio, y mae un yn llywodraethu, nid yw'r llall wedi dod eto, a phan ddaw nid yw i aros ond am fyr amser. 11 A'r bwystfil oedd yn bod ac nad yw'n bod, yr wythfed yw ef, ac eto y mae'n un o'r saith, ac y mae'n mynd i ddistryw. 12 A'r deg corn a welaist, deg brenin ydynt, rhai na ddaethant eto i'r orsedd, ond fe dderbyniant awdurdod brenhinol am un awr ynghyd �'r bwystfil. 13 Y mae'r rhain yn unfryd ar drosglwyddo eu gallu a'u hawdurdod i'r bwystfil. 14 Fe ryfelant yn erbyn yr Oen, ac fe orchfyga'r Oen hwy, oherwydd y mae ef yn Arglwydd arglwyddi a Brenin brenhinoedd, a'i osgorddlu ef yw'r rhai a alwyd ac a etholwyd ac sy'n ffyddlon." 15 A dywedodd wrthyf, "Y dyfroedd a welaist, lle'r oedd y butain yn eistedd, pobloedd a thyrfaoedd, cenhedloedd ac ieithoedd ydynt. 16 A'r deg corn a welaist, a'r bwystfil, byddant hwy'n cas�u'r butain, ac yn ei gadael yn ddiffaith ac yn noeth. Bwyt�nt ei chnawd hi a'i llosgi'n ulw � th�n. 17 Oherwydd rhoddodd Duw yn eu calonnau gyflawni ei fwriad ef, iddynt drosglwyddo'n unfryd eu teyrnas i'r bwystfil hyd nes cwblhau geiriau Duw. 18 Y wraig a welaist yw'r ddinas fawr sydd �'r frenhiniaeth ganddi ar frenhinoedd y ddaear."