Welsh

Revelation

18

1 Ar �l hyn gwelais angel arall yn disgyn o'r nef, a chanddo awdurdod mawr; a goleuwyd y ddaear gan ei ogoniant ef. 2 Gwaeddodd � llais cryf: "Syrthiodd, syrthiodd Babilon fawr, aeth yn drigfa cythreuliaid, yn gyrchfa pob ysbryd aflan, yn gyrchfa pob aderyn aflan, ac yn gyrchfa pob bwystfil aflan ac atgas; 3 oherwydd o win llid ei phuteindra y mae'r holl genhedloedd wedi yfed. Puteiniodd brenhinoedd y ddaear gyda hi, ac ymgyfoethogodd masnachwyr y ddaear ar ddigonedd ei moethusrwydd hi." 4 Yna clywais lais arall o'r nef yn dweud: "Dewch allan ohoni, fy mhobl, rhag i chwi gyfranogi o'i phechodau, ac o'i phl�u dderbyn rhan; 5 oherwydd pentyrrwyd ei phechodau hyd y nef, a chadwodd Duw ei hanghyfiawnderau hi ar gof. 6 Talwch y pwyth yn �l iddi, talwch hi'n ddyblyg am ei gweithredoedd; dyblwch iddi chwerwder y cwpan a gymysgodd hi; 7 yn �l mesur ei rhwysg a'i moethusrwydd, rhowch iddi boenedigaeth a galar. Oherwydd yn ei chalon y mae'n dweud, 'Rwy'n eistedd yn frenhines, nid gweddw wyf, a galar ni welaf byth.' 8 Am hyn daw ei phl�u arni o fewn un dydd, marwolaeth, galar a newyn, a llosgir hi'n ulw � th�n; oblegid nerthol yw'r Arglwydd Dduw, ei barnwr hi." 9 Bydd brenhinoedd y ddaear, a buteiniodd gyda hi a byw'n foethus, yn wylo a galaru amdani, pan welant fwg ei llosgi hi. 10 Safant o hirbell gan ofn ei phoenedigaeth, a dweud: "Gwae, gwae'r ddinas fawr, Babilon, y ddinas nerthol, oherwydd mewn un awr daeth arnat dy farn!" 11 Bydd masnachwyr y ddaear yn wylo a galaru amdani, oherwydd nid oes neb mwyach yn prynu eu nwyddau, 12 eu llwythi o aur ac arian, o emau gwerthfawr a pherlau, o liain main a sidan, o borffor ac ysgarlad; eu llwythi o bob pren persawrus ac o bob gwaith ifori a gwaith pren drudfawr neu bres neu haearn neu farmor; 13 eu llwythi o sinamon, sbeis a pherlysiau, o fyrr a thus, o win ac olew, o flawd m�n a gwenith, o wartheg a defaid, o geffylau a cherbydau, o gaethweision a bywydau pobl. 14 Dywedant wrthi: "Y mae'r ffrwyth y chwenychodd dy enaid amdano wedi mynd oddi wrthyt, a'r holl wychder a'r ysblander oedd iti wedi diflannu oddi wrthyt, byth mwy i'w canfod!" 15 Bydd masnachwyr y nwyddau hyn, a enillodd eu cyfoeth drwyddi hi, yn sefyll o hirbell gan ofn ei phoenedigaeth, yn wylo a galaru 16 a dweud: "Gwae, gwae'r ddinas fawr, sydd wedi ei gwisgo � lliain main, � phorffor ac ysgarlad, a'i thec�u � thlysau aur, � gemau gwerthfawr a pherlau, 17 oherwydd diffeithio cymaint o gyfoeth mewn un awr!" Yna cafwyd pob capten llong a phob teithiwr ar f�r, llongwyr a phawb sydd �'u gwaith ar y m�r, yn sefyll o hirbell 18 ac yn gweiddi wrth weld mwg ei llosgi hi: "A fu dinas debyg i'r ddinas fawr?" 19 Bwriasant lwch ar eu pennau a gweiddi mewn dagrau a galar: "Gwae, gwae'r ddinas fawr, lle'r enillodd pawb a chanddynt longau ar y m�r gyfoeth trwy ei golud hi, oherwydd ei diffeithio mewn un awr!" 20 O nef, gorfoledda drosti, a chwithau'r saint, a'r apostolion a'r proffwydi, oherwydd y farn a roes hi arnoch chwi a roes Duw arni hi. 21 Cododd angel nerthol garreg debyg i faen melin mawr a'i thaflu i'r m�r a dweud: "Yr un mor ffyrnig yr hyrddir i'r ddaear Fabilon, y ddinas fawr, ac nis ceir byth mwy. 22 A sain telynorion a cherddorion a rhai'n canu ffliwt ac utgorn, nis clywir ynot byth mwy; a phob un sy'n dilyn unrhyw grefft, nis ceir ynot byth mwy; a su373?n maen y felin, nis clywir ynot byth mwy; 23 a golau lamp, nis gwelir ynot byth mwy; a llais priodfab a phriodferch, nis clywir ynot byth mwy. Mawrion y ddaear oedd dy fasnachwyr di, a thwyllwyd yr holl genhedloedd gan dy ddewiniaeth. 24 Ynddi hi y cafwyd gwaed y proffwydi a'r saint, a phawb a laddwyd ar y ddaear."