Welsh

Revelation

19

1 Ar �l hyn clywais su373?n fel llais uchel tyrfa fawr yn y nef yn dweud: "Halelwia! Eiddo ein Duw ni y waredigaeth a'r gogoniant a'r gallu, 2 oherwydd gwir a chyfiawn yw ei farnedigaethau ef, gan iddo farnu'r butain fawr a lygrodd y ddaear �'i phuteindra, a dial gwaed ei weision arni hi." 3 A dywedasant eilwaith: "Halelwia! Bydd ei mwg hi'n codi byth bythoedd." 4 Syrthiodd y pedwar henuriad ar hugain a'r pedwar creadur byw, ac addoli Duw, yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd, a dweud: "Amen! Halelwia!" 5 A daeth llais allan o'r orsedd yn dweud: "Molwch ein Duw ni, chwi ei holl weision ef, a'r rhai sy'n ei ofni ef, yn fach a mawr." 6 A chlywais lais fel su373?n tyrfa fawr a su373?n llawer o ddyfroedd a su373?n taranau mawr yn dweud: "Halelwia! Oherwydd y mae'r Arglwydd ein Duw, yr Hollalluog, wedi dechrau teyrnasu. 7 Llawenhawn a gorfoleddwn, a rhown iddo'r gogoniant, oherwydd daeth dydd priodas yr Oen, ac ymbarat�dd ei briodferch ef. 8 Rhoddwyd iddi hi i'w wisgo liain main disglair a gl�n, oherwydd gweithredoedd cyfiawn y saint yw'r lliain main." 9 Dywedodd yr angel wrthyf, "Ysgrifenna: 'Gwyn eu byd y rhai sydd wedi eu gwahodd i wledd briodas yr Oen.'" Dywedodd wrthyf hefyd, "Dyma wir eiriau Duw." 10 Syrthiais wrth ei draed i'w addoli, ond meddai wrthyf, "Paid! Cydwas � thi wyf fi, ac �'th gymrodyr sy'n glynu wrth dystiolaeth Iesu; addola Dduw. Oherwydd tystiolaeth Iesu sy'n ysbrydoli proffwydoliaeth." 11 Gwelais y nef wedi ei hagor, ac wele geffyl gwyn; enw ei farchog oedd Ffyddlon a Gwir, oherwydd mewn cyfiawnder y mae ef yn barnu ac yn rhyfela. 12 Yr oedd ei lygaid fel fflam d�n, ac ar ei ben yr oedd diademau lawer. Yn ysgrifenedig arno yr oedd enw na wyddai neb ond ef ei hun. 13 Yr oedd y fantell amdano wedi ei throchi mewn gwaed, ac fe'i galwyd wrth yr enw Gair Duw. 14 Yn ei ganlyn ar geffylau gwynion yr oedd byddinoedd y nef, wedi eu gwisgo � lliain main disgleirwyn. 15 O'i enau yr oedd cleddyf llym yn dod allan, iddo daro'r cenhedloedd ag ef; a bydd ef yn eu llywodraethu � gwialen haearn, ac yn sathru gwinwryf llid digofaint Duw, yr Hollalluog. 16 Yn ysgrifenedig ar ei fantell ac ar ei glun y mae enw: "Brenin brenhinoedd, ac Arglwydd arglwyddi." 17 Yna gwelais angel yn sefyll yn yr haul, a gwaeddodd � llais uchel wrth yr holl adar oedd yn hedfan yng nghanol y nef: "Dewch, ymgasglwch i wledd fawr Duw; 18 cewch fwyta cnawd brenhinoedd, cnawd cadfridogion, cnawd y cryfion, cnawd ceffylau a'u marchogion, a chnawd pawb, yn rhyddion ac yn gaethion, yn fach ac yn fawr." 19 Gwelais y bwystfil, a brenhinoedd y ddaear a'u byddinoedd, wedi ymgasglu i ryfela yn erbyn marchog y ceffyl a'i fyddin. 20 Daliwyd y bwystfil, ac ynghyd ag ef y gau broffwyd oedd wedi gwneud arwyddion gwyrthiol o'i flaen i dwyllo'r rhai oedd wedi derbyn nod y bwystfil ac addoli ei ddelw ef. Bwriwyd y ddau yn fyw i'r llyn t�n oedd yn llosgi � brwmstan. 21 Lladdwyd y gweddill �'r cleddyf oedd yn dod allan o enau marchog y ceffyl, a chafodd yr holl adar eu gwala o'u cnawd hwy.