1 Gwelais angel yn disgyn o'r nef, a chanddo yn ei law allwedd y dyfnder a chadwyn fawr. 2 Gafaelodd yn y ddraig, yr hen sarff, sef Diafol a Satan, a rhwymodd hi am fil o flynyddoedd. 3 Bwriodd hi i'r dyfnder, a chloi'r pwll a'i selio arni rhag iddi dwyllo'r cenhedloedd eto, nes i'r mil blynyddoedd ddod i ben; ar �l hynny, rhaid ei gollwng yn rhydd am ychydig amser. 4 Gwelais orseddau, ac yn eistedd arnynt y rhai y rhoddwyd iddynt awdurdod i farnu; gwelais hefyd eneidiau'r rhai a ddienyddiwyd ar gyfrif tystiolaeth Iesu ac ar gyfrif gair Duw. Nid oedd y rhain wedi addoli'r bwystfil, na'i ddelw ef, na chwaith wedi derbyn ei nod ar eu talcen nac ar eu llaw. Daethant yn fyw, a theyrnasu gyda Christ am fil o flynyddoedd. 5 Ni ddaeth gweddill y meirw yn fyw nes i'r mil blynyddoedd ddod i ben. Dyma'r atgyfodiad cyntaf. 6 Gwyn ei fyd a sanctaidd y sawl sydd � rhan yn yr atgyfodiad cyntaf; nid oes gan yr ail farwolaeth awdurdod arnynt, ond byddant yn offeiriaid Duw a Christ, a theyrnasant gydag ef am y mil blynyddoedd. 7 Pan ddaw'r mil blynyddoedd i ben, caiff Satan ei ollwng yn rhydd o'i garchar, 8 a daw allan i dwyllo'r cenhedloedd ym mhedwar ban y byd, sef lluoedd Gog a Magog, a'u casglu ynghyd i ryfel; byddant mor niferus � thywod y m�r. 9 Cyrchasant dros wyneb y ddaear ac amgylchynu gwersyll y saint a'r ddinas sy'n annwyl gan Dduw. Ond disgynnodd t�n o'r nef a'u difa'n llwyr; 10 a bwriwyd y diafol, twyllwr y cenhedloedd, i'r llyn t�n a brwmstan, lle mae'r bwystfil hefyd a'r gau broffwyd. Yno c�nt eu poenydio ddydd a nos byth bythoedd. 11 Gwelais orsedd fawr wen a'r Un oedd yn eistedd arni, hwnnw y ffoesai'r ddaear a'r nef o'i u373?ydd a'u gadael heb le. 12 Gwelais y meirw, yn fawr a bach, yn sefyll o flaen yr orsedd; ac agorwyd llyfrau. Yna agorwyd llyfr arall, sef llyfr y bywyd; a barnwyd y meirw ar sail yr hyn oedd yn ysgrifenedig yn y llyfrau, yn �l eu gweithredoedd. 13 Ildiodd y m�r y meirw oedd ynddo, ac ildiodd Marwolaeth a Hades y rhai oedd ynddynt hwy, ac fe'u barnwyd, pob un yn �l ei weithredoedd. 14 Bwriwyd Marwolaeth a Hades i'r llyn t�n; dyma'r ail farwolaeth, sef y llyn t�n. 15 Pwy bynnag ni chafwyd ei enw'n ysgrifenedig yn llyfr y bywyd, fe'i bwriwyd i'r llyn t�n.