1 Ar �l hyn edrychais, ac wele ddrws wedi ei agor yn y nef; a dyma'r llais, a glywswn gyntaf yn llefaru wrthyf fel su373?n utgorn, yn dweud, "Tyrd i fyny yma, a dangosaf iti'r pethau y mae'n rhaid iddynt ddigwydd ar �l hyn." 2 Ar unwaith, yr oeddwn yn yr Ysbryd; ac wele, yr oedd gorsedd wedi ei gosod yn y nef, ac ar yr orsedd un yn eistedd. 3 Yr oedd hwn yn debyg ei olwg i faen iasbis a sardion, ac o amgylch yr orsedd yr oedd enfys debyg i emrallt. 4 O amgylch yr orsedd yr oedd hefyd bedair gorsedd ar hugain, ac ar y rhain bedwar henuriad ar hugain yn eistedd mewn dillad gwyn, ac ar eu pennau goronau aur. 5 o'r orsedd yr oedd fflachiadau mellt a su373?n taranau yn dod allan, ac yn llosgi gerbron yr orsedd yr oedd saith ffagl d�n; y rhain yw saith ysbryd Duw. 6 O flaen yr orsedd yr oedd m�r megis o wydr, tebyg i risial. Ac yng nghanol yr orsedd ac o'i hamgylch yr oedd pedwar creadur byw yn llawn o lygaid o'r tu blaen a'r tu �l. 7 Yr oedd y creadur cyntaf yn debyg i lew, a'r ail i lo; yr oedd gan y trydydd wyneb dynol, ac yr oedd y pedwerydd yn debyg i eryr yn hedfan. 8 I'r pedwar creadur byw yr oedd chwe adain yr un, ac yr oeddent yn llawn o lygaid o'u hamgylch ac o'u mewn, a heb orffwys ddydd na nos yr oeddent yn dweud: "Sanct, Sanct, Sanct yw'r Arglwydd Dduw hollalluog, yr hwn oedd a'r hwn sydd a'r hwn sydd i ddod!" 9 Pan fydd y creaduriaid byw yn rhoi gogoniant ac anrhydedd a diolch i'r hwn sy'n eistedd ar yr orsedd, yr hwn sy'n byw byth bythoedd, 10 bydd y pedwar henuriad ar hugain yn syrthio o flaen yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd, gan addoli'r hwn sy'n byw byth bythoedd, a bwrw eu coronau gerbron yr orsedd a dweud: 11 "Teilwng wyt ti, ein Harglwydd a'n Duw, i dderbyn y gogoniant a'r anrhydedd a'r gallu, oherwydd tydi a greodd bob peth, a thrwy dy ewyllys y daethant i fod ac y crewyd hwy."