Welsh

Revelation

5

1 A gwelais yn llaw dde yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd sgr�l a'i hysgrifen ar yr wyneb ac ar y cefn, wedi ei selio � saith s�l. 2 A gwelais angel nerthol yn cyhoeddi � llef uchel, "Pwy sydd deilwng i agor y sgr�l ac i ddatod ei seliau?" 3 Nid oedd neb yn y nef nac ar y ddaear na than y ddaear a allai agor y sgr�l nac edrych arni. 4 Yr oeddwn i'n wylo'n hidl am na chafwyd neb yn deilwng i agor y sgr�l nac i edrych arni. 5 A dywedodd un o'r henuriaid wrthyf, "Paid ag wylo; wele, y mae'r Llew o lwyth Jwda, Gwreiddyn Dafydd, wedi gorchfygu ac ennill yr hawl i agor y sgr�l a'i saith s�l." 6 Gwelais Oen yn sefyll yn y canol, gyda'r pedwar creadur byw, rhwng yr orsedd a'r henuriaid. Yr oedd yr Oen fel un wedi ei ladd, ac yr oedd ganddo saith o gyrn a saith o lygaid; y rhain yw saith ysbryd Duw, sydd wedi eu hanfon i'r holl ddaear. 7 Daeth yr Oen a chymryd y sgr�l o law dde yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd. 8 Ac wedi iddo gymryd y sgr�l, syrthiodd y pedwar creadur byw a'r pedwar henuriad ar hugain o flaen yr Oen, ac yr oedd gan bob un ohonynt delyn, a ffiolau aur yn llawn o arogldarth; y rhain yw gwedd�au'r saint. 9 Ac yr oeddent yn canu c�n newydd fel hyn: "Teilwng wyt ti i gymryd y sgr�l ac i agor ei seliau, oherwydd ti a laddwyd ac a brynaist i Dduw �'th waed rai o bob llwyth ac iaith a phobl a chenedl, 10 a gwnaethost hwy yn urdd frenhinol ac yn offeiriaid i'n Duw ni; ac fe deyrnasant hwy ar y ddaear." 11 Yna edrychais a chlywais lais angylion lawer; yr oeddent o amgylch yr orsedd a'r creaduriaid byw a'r henuriaid. A'u rhif oedd myrdd myrddiynau a miloedd ar filoedd. 12 Meddent � llef uchel: "Teilwng yw'r Oen a laddwyd i dderbyn gallu, cyfoeth, doethineb a nerth, anrhydedd, gogoniant a mawl." 13 A chlywais bob peth a grewyd, yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear ac ar y m�r, a'r cwbl sydd ynddynt, yn dweud: "I'r hwn sy'n eistedd ar yr orsedd ac i'r Oen y bo'r mawl a'r anrhydedd a'r gogoniant a'r nerth byth bythoedd!" 14 A dywedodd y pedwar creadur byw, "Amen"; a syrthiodd yr henuriaid i lawr ac addoli.