Welsh

Revelation

6

1 Edrychais pan agorodd yr Oen y gyntaf o'r saith s�l, a chlywais y cyntaf o'r pedwar creadur byw yn dweud � llais fel taran, "Tyrd." 2 Edrychais, ac wele geffyl gwyn; yr oedd gan ei farchog fwa; rhoddwyd iddo goron, ac fe aeth allan fel concwerwr i ennill concwest. 3 Pan agorodd yr Oen yr ail s�l, clywais yr ail greadur byw yn dweud, "Tyrd." 4 A daeth allan geffyl arall, fflamgoch; ac i farchog hwn rhoddwyd awdurdod i ddwyn heddwch oddi ar y ddaear a pheri i bobl ladd ei gilydd, a rhoddwyd iddo gleddyf mawr. 5 Pan agorodd y drydedd s�l, clywais y trydydd creadur byw yn dweud, "Tyrd." Edrychais, ac wele geffyl du; ac yr oedd gan ei farchog glorian yn ei law. 6 Clywais su373?n fel llais o ganol y pedwar creadur byw yn dweud: "Darn arian am litr o wenith, darn arian am dri litr o haidd; ond paid � difetha'r olew na'r gwin." 7 Pan agorodd y bedwaredd s�l, clywais lais y pedwerydd creadur byw yn dweud, "Tyrd." 8 Edrychais, ac wele geffyl gwelwlwyd; ac enw ei farchog ef oedd Marwolaeth, ac yn ei ganlyn yn dynn yr oedd Hades. Rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o'r ddaear, hawl i ladd �'r cleddyf ac � newyn ac � phla, a thrwy fwystfilod y ddaear. 9 Pan agorodd y bumed s�l, gwelais dan yr allor eneidiau'r rhai a laddwyd ar gyfrif gair Duw ac am y dystiolaeth yr oeddent wedi ei dwyn. 10 Gwaeddasant � llais uchel: "Pa hyd, Benllywydd sanctaidd a gwir, cyn i ti farnu, a dial ein gwaed ar drigolion y ddaear?" 11 Yna rhoddwyd i bob un ohonynt fantell wen, a dywedwyd wrthynt am orffwys eto am ychydig amser hyd nes bod nifer eu cydweision a'u cymrodyr, a oedd i'w lladd fel hwythau, yn gyflawn. 12 Edrychais pan agorodd y chweched s�l. Bu daeargryn mawr, aeth yr haul yn ddu fel sachliain galar, a'r lleuad lawn yn goch fel gwaed. 13 Syrthiodd s�r y nef i'r ddaear fel cawod o ffigys gleision oddi ar ffigysbren pan siglir ef gan wynt mawr. 14 Rhwygwyd y ffurfafen fel sgr�l yn cael ei dirwyn, a symudwyd pob mynydd ac ynys o'u lle. 15 A brenhinoedd y ddaear, y mawrion a'r cadfridogion, y cyfoethogion a'r cryfion, a phawb, yn gaethion ac yn rhyddion, cuddiasant eu hunain mewn ogofeydd ac yng nghreigiau'r mynyddoedd; 16 a dywedasant wrth y mynyddoedd a'r creigiau, "Syrthiwch arnom, a chuddiwch ni rhag wyneb yr hwn sy'n eistedd ar yr orsedd a rhag digofaint yr Oen, 17 oherwydd daeth dydd mawr eu digofaint hwy, a phwy all sefyll?"