Welsh

Song of Solomon

2

1 Yr wyf fel rhosyn Saron, fel lili'r dyffrynnoedd. 2 Ie, lili ymhlith drain yw f'anwylyd ymysg merched. 3 Fel pren afalau ymhlith prennau'r goedwig yw fy nghariad ymysg y bechgyn. Yr oeddwn wrth fy modd yn eistedd yn ei gysgod, ac yr oedd ei ffrwyth yn felys i'm genau. 4 Cymerodd fi i'r gwindy, gyda baner ei gariad drosof. 5 Rhoddodd imi rawnwin i'w bwyta, a'm hadfywio ag afalau, oherwydd yr oeddwn yn glaf o gariad. 6 Yr oedd ei fraich chwith dan fy mhen, a'i fraich dde yn fy nghofleidio. 7 Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch yn enw iyrchod ac ewigod y maes. Peidiwch � deffro na tharfu fy nghariad nes y bydd yn barod. 8 Ust! dyma fy nghariad, dyma ef yn dod; y mae'n neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau. 9 Y mae fy nghariad fel gafrewig, neu hydd ifanc; dyna ef yn sefyll y tu allan i'r mur, yn edrych trwy'r ffenestri, ac yn syllu rhwng y dellt. 10 Y mae fy nghariad yn galw arnaf ac yn dweud wrthyf, "Cod yn awr, f'anwylyd, a thyrd, fy mhrydferth; 11 oherwydd edrych, aeth y gaeaf heibio, ciliodd y glaw a darfu; 12 y mae'r blodau'n ymddangos yn y meysydd, daeth yn amser i'r adar ganu, ac fe glywir c�n y durtur yn ein gwlad; 13 y mae'r ffigysbren yn llawn ffigys ir, a blodau'r gwinwydd yn gwasgaru aroglau peraidd. Cod yn awr, f'anwylyd, a thyrd, fy mhrydferth." 14 Fy ngholomen, sydd yn encilion y graig, yng nghysgod y clogwyni, gad imi weld dy wyneb, a chlywed dy lais, oherwydd y mae dy lais yn swynol, a'th wyneb yn brydferth. 15 Daliwch inni'r llwynogod, y llwynogod bychain, sy'n difetha'r gwinllannoedd pan yw'r blodau ar y gwinwydd. 16 Y mae fy nghariad yn eiddo i mi, a minnau'n eiddo iddo ef; y mae'n bugeilio'i braidd ymysg y lil�au. 17 Cyn i awel y dydd godi, ac i'r cysgodion ddiflannu, tro ataf, fy nghariad, a bydd yn debyg i afrewig neu hydd ifanc ar y mynyddoedd ysgythrog.