1 Bob nos ar fy ngwely ceisiais fy nghariad; fe'i ceisiais, ond heb ei gael. 2 Mi godais, a mynd o amgylch y dref, trwy'r heolydd a'r strydoedd; chwiliais am fy nghariad; chwilio, ond heb ei gael. 3 Daeth y gwylwyr i'm cyfarfod, wrth iddynt fynd o amgylch y dref, a gofynnais, "A welsoch chwi fy nghariad?" 4 Ymhen ychydig wedi imi eu gadael, fe gefais fy nghariad; gafaelais ynddo, a gwrthod ei ollwng nes ei ddwyn i du375? fy mam, i ystafell yr un a esgorodd arnaf. 5 Ferched Jerwsalem, yr wyf yn ymbil arnoch yn enw iyrchod ac ewigod y maes. Peidiwch � deffro na tharfu f'anwylyd nes y bydd hi'n dymuno. 6 Beth yw hyn sy'n dod o'r anialwch, fel colofn o fwg yn llawn arogl o fyrr a thus, ac o bowdrau marsiand�wr? 7 Dyma gerbyd Solomon; o'i gylch y mae trigain o ddynion cryfion, y rhai cryfaf yn Israel, 8 pob un yn cario cleddyf, ac wedi ei hyfforddi i ryfela, pob un �'i gleddyf ar ei glun, yn barod ar gyfer dychryn yn y nos. 9 Gwnaeth y Brenin Solomon iddo'i hun gadair gludo o goed Lebanon, 10 gyda'i pholion o arian, ei chefn o aur, ei sedd o borffor, a'r tu mewn iddi yn lledr o waith merched Jerwsalem. 11 Dewch allan, ferched Seion, edrychwch ar y Brenin Solomon yn gwisgo'r goron a roddodd ei fam iddo ar ddydd ei briodas, y dydd pan oedd yn llawen.