聖經新譯本

Welsh

Luke

23

1耶穌被押交彼拉多(太27:1~2、11~14;可15:1~5;約18:28~38)眾人都起來,把耶穌押到彼拉多那裡,
1 Codasant oll yn dyrfa a dod ag ef gerbron Pilat.
2控告他說:“我們查出這個人煽惑我們的同胞,阻止納稅給凱撒,並且自稱是基督,是王。”
2 Dechreusant ei gyhuddo gan ddweud, "Cawsom y dyn hwn yn arwain ein cenedl ar gyfeiliorn, yn gwahardd talu trethi i Gesar, ac yn honni mai ef yw'r Meseia, sef y brenin."
3彼拉多問他:“你是猶太人的王嗎?”耶穌回答:“這是你說的。”
3 Holodd Pilat ef: "Ai ti yw Brenin yr Iddewon?" Atebodd yntau ef, "Ti sy'n dweud hynny."
4彼拉多對祭司長和眾人說:“我在這人身上,查不出有甚麼罪。”
4 Ac meddai Pilat wrth y prif offeiriaid a'r tyrfaoedd, "Nid wyf yn cael dim trosedd yn achos y dyn hwn."
5但他們極力說:“他在猶太全地教導人,煽動群眾,從加利利直到這裡。”
5 Ond dal i daeru yr oeddent: "Y mae'n cyffroi'r bobl �'i ddysgeidiaeth, trwy Jwdea gyfan. Dechreuodd yng Ngalilea, ac y mae wedi cyrraedd hyd yma."
6希律王藐視耶穌彼拉多聽見了,就問耶穌是不是加利利人。
6 Pan glywodd Pilat hyn, gofynnodd ai Galilead oedd y dyn;
7既然知道他是從希律管轄下來的,就把他送回希律那裡;那時希律正在耶路撒冷。
7 ac wedi deall ei fod dan awdurdod Herod, cyfeiriodd yr achos ato, gan fod Herod yntau yn Jerwsalem y dyddiau hynny.
8希律看見耶穌,非常歡喜,因為他曾經聽過耶穌的事,早就想要見他,希望看他行個神蹟。
8 Pan welodd Herod Iesu, mawr oedd ei lawenydd; bu'n awyddus ers amser hir i'w weld, gan iddo glywed amdano, ac yr oedd yn gobeithio ei weld yn cyflawni rhyw wyrth.
9於是他問了耶穌許多話,但耶穌甚麼也不回答。
9 Bu'n ei holi'n faith, ond nid atebodd Iesu iddo yr un gair.
10祭司長和經學家站著,猛烈地控告他。
10 Yr oedd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion yno, yn ei gyhuddo yn ffyrnig.
11希律和他的侍衛就藐視耶穌,戲弄他,給他穿上華麗的衣服,把他送回彼拉多那裡。
11 A'i drin yn sarhaus a wnaeth Herod hefyd, ynghyd �'i filwyr. Fe'i gwatwarodd, a gosododd wisg ysblennydd amdano, cyn cyfeirio'r achos yn �l at Pilat.
12希律和彼拉多從前原是彼此為仇,在那一天就成了朋友。
12 Daeth Herod a Philat yn gyfeillion i'w gilydd y dydd hwnnw; cyn hynny yr oedd gelyniaeth rhyngddynt.
13彼拉多判耶穌釘十字架(太27:15~26;可15:6~15;約18:39~19:16)彼拉多召集了祭司長、官長和民眾,
13 Galwodd Pilat y prif offeiriaid ac aelodau'r Cyngor a'r bobl ynghyd,
14對他們說:“你們把這人押到我這裡來,說他煽惑群眾,我已經在你們面前審訊過,在他身上一點也找不到你們控告他的罪狀,
14 ac meddai wrthynt, "Daethoch �'r dyn hwn ger fy mron fel un sy'n arwain y bobl ar gyfeiliorn. Yn awr, yr wyf fi wedi holi'r dyn hwn yn eich gu373?ydd chwi, a heb gael ei fod yn euog o unrhyw un o'ch cyhuddiadau yn ei erbyn;
15連希律也找不到,又把他送回我這裡,可見他沒有作過該死的事。
15 ac ni chafodd Herod chwaith, oherwydd cyfeiriodd ef ei achos yn �l atom ni. Fe welwch nad yw wedi gwneud dim sy'n haeddu marwolaeth.
16我要責打他,然後把他釋放。”
16 Gan hynny, mi ddysgaf wers iddo �'r chwip a'i ollwng yn rhydd."
17(有些抄本有第17節:“每逢節期,他必須照例給他們釋放一個囚犯。”也有些抄本把這句放在第19節後)
17 [{cf15i Yr oedd yn rhaid iddo ryddhau un carcharor iddynt ar y Pasg.}]
18眾人齊聲喊叫:“除掉這個人,給我們釋放巴拉巴!”
18 Ond gwaeddasant ag un llais, "Ymaith � hwn, rhyddha Barabbas inni."
19這巴拉巴是因為在城作亂殺人而入獄的。
19 Dyn oedd hwnnw wedi ei fwrw i garchar o achos gwrthryfel a llofruddiaeth oedd wedi digwydd yn y ddinas.
20彼拉多再向他們說明,願意釋放耶穌。
20 Drachefn anerchodd Pilat hwy, yn ei awydd i ryddhau Iesu,
21然而他們高聲呼叫:“把他釘十字架,把他釘十字架!”
21 ond bloeddiasant hwy, "Croeshoelia ef, croeshoelia ef."
22彼拉多第三次對他們說:“這人作過甚麼惡事呢?我在他身上找不出甚麼該死的罪。所以我要責打他,然後把他釋放。”
22 Y drydedd waith meddai wrthynt, "Ond pa ddrwg a wnaeth ef? Ni chefais unrhyw achos i'w ddedfrydu i farwolaeth. Gan hynny, mi ddysgaf wers iddo �'r chwip a'i ollwng yn rhydd."
23但他們大聲吵鬧,要他把耶穌釘十字架,他們的聲音就得了勝。
23 Ond yr oeddent yn pwyso arno �'u crochlefain byddarol, gan fynnu ei groeshoelio ef, ac yr oedd eu bonllefau yn ennill y dydd.
24彼拉多就宣判,照他們的要求,
24 Yna penderfynodd Pilat ganiat�u eu cais;
25把他們所求那作亂殺人入獄的釋放了,卻把耶穌交出來,隨他們的意思處理。
25 rhyddhaodd yr hwn yr oeddent yn gofyn amdano, y dyn oedd wedi ei fwrw i garchar am wrthryfela a llofruddio, a thraddododd Iesu i'w hewyllys hwy.
26耶穌被釘十字架(太27:33~44;可15:21~32;約19:17~24)他們把耶穌帶走的時候,抓住了一個從鄉下來的古利奈人西門,把十字架放在他身上,叫他背著跟在耶穌後面。
26 Wedi mynd ag ef ymaith gafaelsant yn Simon, brodor o Cyrene, a oedd ar ei ffordd o'r wlad, a gosod y groes ar ei gefn, iddo ei chario y tu �l i Iesu.
27一大群人跟隨他,有些婦女為他捶胸痛哭。
27 Yr oedd tyrfa fawr o'r bobl yn ei ddilyn, ac yn eu plith wragedd yn galaru ac yn wylofain drosto.
28耶穌轉過身來對她們說:“耶路撒冷的女兒啊,不要為我哭,卻要為你們自己和你們的兒女哭。
28 Troes Iesu atynt a dweud, "Ferched Jerwsalem, peidiwch ag wylo amdanaf fi; wylwch yn hytrach amdanoch eich hunain ac am eich plant.
29日子將到,人必說:‘不生育的和沒有懷過胎的,也沒有哺養過嬰兒的有福了。’
29 Oherwydd dyma ddyddiau yn dod pan fydd pobl yn dweud, 'Gwyn eu byd y gwragedd diffrwyth a'r crothau nad esgorasant a'r bronnau na roesant sugn.'
30那時人要對大山說:‘倒在我們身上!’對小山說:‘遮蓋我們!’
30 Y pryd hwnnw bydd pobl yn dechrau 'Dweud wrth y mynyddoedd, "Syrthiwch arnom", ac wrth y bryniau, "Gorchuddiwch ni."'
31他們在青綠的樹上,既然這樣作;在枯乾的樹上,又會怎樣呢?”
31 Oherwydd os gwneir hyn i'r pren glas, pa beth a ddigwydd i'r pren crin?"
32他們另外帶來兩個犯人,和耶穌一同處死,
32 Daethpwyd ag eraill hefyd, dau droseddwr, i'w dienyddio gydag ef.
33到了那名叫“髑髏”的地方,就把耶穌釘在十字架上,也釘了那兩個犯人,一左一右。
33 Pan ddaethant i'r lle a elwir Y Benglog, yno croeshoeliwyd ef a'r troseddwyr, y naill ar y dde a'r llall ar y chwith iddo.
34耶穌說:“父啊,赦免他們!因為他們不知道自己所作的是甚麼。”士兵抽籤,分了他的衣服。
34 Ac meddai Iesu, "O Dad, maddau iddynt, oherwydd ni wyddant beth y maent yn ei wneud." A bwriasant goelbrennau i rannu ei ddillad.
35群眾站著觀看,官長們嗤笑說:“他救了別人,如果他是基督,是 神所揀選的,讓他救自己吧!”
35 Yr oedd y bobl yn sefyll yno, yn gwylio. Yr oedd aelodau'r Cyngor hwythau yn ei wawdio gan ddweud, "Fe achubodd eraill; achubed ei hun, os ef yw Meseia Duw, yr Etholedig."
36士兵也上前戲弄他,拿酸酒給他喝,
36 Daeth y milwyr hefyd ato a'i watwar, gan gynnig gwin sur iddo,
37說:“如果你是猶太人的王,救你自己吧!”
37 a chan ddweud, "Os ti yw Brenin yr Iddewon, achub dy hun."
38在耶穌的頭以上有一個牌子寫著:“這是猶太人的王。”
38 Yr oedd hefyd arysgrif uwch ei ben: "Hwn yw Brenin yr Iddewon."
39懸掛著的犯人中,有一個侮辱他說:“你不是基督嗎?救你自己和我們吧!”
39 Yr oedd un o'r troseddwyr ar ei groes yn ei gablu gan ddweud, "Onid ti yw'r Meseia? Achub dy hun a ninnau."
40另一個就應聲責備他說:“你是同樣受刑的,還不懼怕 神嗎?
40 Ond atebodd y llall, a'i geryddu: "Onid oes arnat ofn Duw, a thithau dan yr un ddedfryd?
41我們是罪有應得的。我們所受的與所作的相稱,然而這個人並沒有作過甚麼不對的事。”
41 I ni, y mae hynny'n gyfiawn, oherwydd haeddiant ein gweithredoedd sy'n dod inni. Ond ni wnaeth hwn ddim o'i le."
42他又對耶穌說:“耶穌啊,你得國降臨的時候,求你記念我。”
42 Yna dywedodd, "Iesu, cofia fi pan ddoi i'th deyrnas."
43耶穌對他說:“我實在告訴你,今天你必定同我在樂園裡了。”
43 Atebodd yntau, "Yn wir, rwy'n dweud wrthyt, heddiw byddi gyda mi ym Mharadwys."
44耶穌死時的情形(太27:45~56;可15:33~41)從正午直到下午三點鐘,遍地都黑暗了。
44 Erbyn hyn yr oedd hi tua hanner dydd. Daeth tywyllwch dros yr holl wlad hyd dri o'r gloch y prynhawn,
45太陽沒有光,聖所的幔子從當中裂開。
45 a'r haul wedi diffodd. Rhwygwyd llen y deml yn ei chanol.
46耶穌大聲呼叫:“父啊,我把我的靈魂交在你手裡。”說了這話,氣就斷了。
46 Llefodd Iesu � llef uchel, "O Dad, i'th ddwylo di yr wyf yn cyflwyno fy ysbryd." A chan ddweud hyn bu farw.
47百夫長看見所發生的事,就頌讚 神,說:“這真是個義人!”
47 Pan welodd y canwriad yr hyn oedd wedi digwydd, dechreuodd ogoneddu Duw gan ddweud, "Yn wir, dyn cyfiawn oedd hwn."
48聚集觀看的群眾,看見所發生的事,都捶著胸回去了。
48 Ac wedi gweld yr hyn a ddigwyddodd, troes yr holl dyrfaoedd, a oedd wedi ymgynnull i wylio'r olygfa, tuag adref gan guro eu bronnau.
49與耶穌熟悉的人,和從加利利跟隨他來的婦女,都遠遠地站著,看這些事。
49 Yr oedd ei holl gyfeillion, ynghyd �'r gwragedd oedd wedi ei ddilyn ef o Galilea, yn sefyll yn y pellter ac yn gweld y pethau hyn.
50耶穌葬在墳墓裡(太27:57~61;可15:42~47;約19:38~42)有一個人名叫約瑟,是個議員,為人良善公義,
50 Yr oedd dyn o'r enw Joseff, aelod o'r Cyngor a dyn da a chyfiawn,
51是猶太地亞利馬太城的人,一向等候 神的國,並不附和眾人的計謀和行為。
51 nad oedd wedi cydsynio �'u penderfyniad a'u gweithred hwy. Yr oedd yn hanu o Arimathea, un o drefi'r Iddewon, ac yn disgwyl am deyrnas Dduw.
52這人去見彼拉多,求領耶穌的身體。
52 Aeth hwn at Pilat a gofyn am gorff Iesu.
53他把身體取下來,用細麻布裹好,放在從石頭鑿出來的墳墓裡,這墳墓是從來沒有葬過人的。
53 Wedi ei dynnu ef i lawr a'i amd�i mewn lliain, gosododd ef mewn bedd wedi ei naddu, lle nad oedd neb hyd hynny wedi gorwedd.
54那天是預備日,安息日就要開始,
54 Dydd y Paratoad oedd hi, ac yr oedd y Saboth ar ddechrau.
55那些從加利利和耶穌一起來的婦女,跟著來了。她們看見了墳墓,和他的身體怎樣安葬,
55 Fe ddilynodd y gwragedd oedd wedi dod gyda Iesu o Galilea, a gwelsant y bedd a'r modd y gosodwyd ei gorff.
56就回去預備香料和香膏。安息日,她們遵著誡命安息。
56 Yna aethant yn eu holau i baratoi peraroglau ac eneiniau. Ar y Saboth buont yn gorffwys yn �l y gorchymyn.