聖經新譯本

Welsh

Psalms

57

1大衛的金詩,交給詩班長,調用“休要毀壞”,是大衛躲在山洞裡逃避掃羅時作的。 神啊,求你恩待我!求你恩待我!因為我投靠你;我要投靠在你翅膀的蔭下,直到災害過去。
1 1 I'r Cyfarwyddwr: ar Na Ddinistria. Michtam. I Ddafydd, pan ddihangodd rhag Saul yn yr ogof.0 Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, bydd drugarog wrthyf, oherwydd ynot ti yr wyf yn llochesu; yng nghysgod dy adenydd y mae fy lloches nes i'r stormydd fynd heibio.
2我要向至高的 神呼求,就是向為我成就他旨意的 神呼求。
2 Galwaf ar y Duw Goruchaf, ar y Duw sy'n gweithredu drosof.
3 神從天上施恩拯救我,斥責那踐踏我的人;(細拉) 神必向我發出他的慈愛和信實。
3 Bydd yn anfon o'r nefoedd i'm gwaredu; bydd yn cywilyddio'r rhai sy'n gwasgu arnaf; Sela. bydd Duw yn anfon ei gariad a'i wirionedd.
4我躺臥在獅子中間,就是在那些想吞滅人的世人中間;他們的牙齒是槍和箭,他們的舌頭是快刀。
4 Yr wyf yn byw yng nghanol llewod, rhai sy'n traflyncu pobl, a'u dannedd yn bicellau a saethau, a'u tafod yn gleddyf miniog.
5 神啊!願你被尊崇,過於諸天;願你的榮耀遍及全地。
5 Ymddyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw, a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.
6他們為我的腳設下了網羅,使我低頭屈服;他們在我面前挖了坑,自己反掉進坑中。(細拉)
6 Y maent wedi gosod rhwyd i'm traed, ac wedi darostwng fy mywyd; y maent wedi cloddio pwll ar fy nghyfer, ond hwy eu hunain fydd yn syrthio iddo. Sela.
7 神啊!我的心堅定,我的心堅定;我要歌唱,我要頌讚。
7 Y mae fy nghalon yn gadarn, O Dduw, y mae fy nghalon yn gadarn; fe ganaf a rhoi mawl.
8我的靈(“靈”或譯:“榮耀”或“肝”;與16:9,30:12,108:1同)啊!你要醒過來。琴和瑟啊!你們都要醒過來。我也要喚醒黎明。
8 Deffro, fy enaid, deffro di, nabl a thelyn. Fe ddeffroaf ar doriad gwawr.
9主啊!我要在萬民中稱謝你,在萬族中歌頌你。
9 Rhof ddiolch i ti, O Arglwydd, ymysg y bobloedd, a chanmolaf di ymysg y cenhedloedd,
10因為你的慈愛偉大,高及諸天,你的信實上達雲霄。
10 oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn hyd y nefoedd, a'th wirionedd hyd y cymylau.
11 神啊!願你被尊崇,過於諸天;願你的榮耀遍及全地。
11 Ymddyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw, a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.