1A Song, a Psalm, by sons of Korah. Great [is] Jehovah, and praised greatly, In the city of our God — His holy hill.
1 1 C�n. Salm. I feibion Cora.0 Mawr yw'r ARGLWYDD a theilwng iawn o fawl yn ninas ein Duw, ei fynydd sanctaidd.
2Beautiful [for] elevation, A joy of all the land, [is] Mount Zion, The sides of the north, the city of a great king.
2 Teg o uchder, llawenydd yr holl ddaear, yw Mynydd Seion, ar lechweddau'r Gogledd, dinas y Brenin Mawr.
3God in her high places is known for a tower.
3 Oddi mewn i'w cheyrydd y mae Duw wedi ei ddangos ei hun yn amddiffynfa.
4For, lo, the kings met, they passed by together,
4 Wele'r brenhinoedd wedi ymgynnull ac wedi dyfod at ei gilydd;
5They have seen — so they have marvelled, They have been troubled, they were hastened away.
5 ond pan welsant, fe'u synnwyd, fe'u brawychwyd nes peri iddynt ffoi;
6Trembling hath seized them there, Pain, as of a travailing woman.
6 daeth dychryn arnynt yno, a gwewyr, fel gwraig yn esgor,
7By an east wind Thou shiverest ships of Tarshish.
7 fel pan fo gwynt y dwyrain yn dryllio llongau Tarsis.
8As we have heard, so we have seen, In the city of Jehovah of hosts, In the city of our God, God doth establish her — to the age. Selah.
8 Fel y clywsom, felly hefyd y gwelsom yn ninas ARGLWYDD y Lluoedd, yn ninas ein Duw ni a gynhelir gan Dduw am byth. Sela.
9We have thought, O God, of Thy kindness, In the midst of Thy temple,
9 O Dduw, yr ydym wedi portreadu dy ffyddlondeb yng nghanol dy deml.
10As [is] Thy name, O God, so [is] Thy praise, Over the ends of the earth, Righteousness hath filled Thy right hand.
10 Fel y mae dy enw, O Dduw, felly y mae dy fawl yn ymestyn hyd derfynau'r ddaear. Y mae dy ddeheulaw'n llawn o gyfiawnder;
11Rejoice doth Mount Zion, The daughters of Judah are joyful, For the sake of Thy judgments.
11 bydded i Fynydd Seion lawenhau. Bydded i drefi Jwda orfoleddu oherwydd dy farnedigaethau.
12Compass Zion, and go round her, count her towers,
12 Ymdeithiwch o gwmpas Jerwsalem, ewch o'i hamgylch, rhifwch ei thyrau,
13Set your heart to her bulwark, Consider her high places, So that ye recount to a later generation,
13 sylwch ar ei magwyrydd, ewch trwy ei chaerau, fel y galloch ddweud wrth yr oes sy'n codi,
14That this God [is] our God — To the age and for ever, He — he doth lead us over death!
14 "Dyma Dduw! Y mae ein Duw ni hyd byth bythoedd, fe'n harwain yn dragywydd."