1 Yna atebodd Eliffas y Temaniad:
1以利法首次发言责难约伯
2 "Os mentra rhywun lefaru wrthyt, a golli di dy amynedd? Eto pwy a all atal geiriau?
2“人若对你说一句话,你就厌烦吗?但谁又忍得住不说话呢?
3 Wele, buost yn cynghori llawer ac yn nerthu'r llesg eu dwylo;
3你曾经教过许多人,又坚固了无力的手;
4 cynhaliodd dy eiriau'r rhai sigledig, a chadarnhau'r gliniau gwan.
4你的话扶起了绊倒的人,你使弯曲乏力的膝坚挺。
5 Ond yn awr daeth adfyd arnat ti, a chymeraist dramgwydd; cyffyrddodd � thi, ac yr wyt mewn helbul.
5但现在祸患临到你,你就灰心,灾祸遇上你,你就惊惶沮丧。
6 Onid yw dy dduwioldeb yn hyder i ti, ac uniondeb dy fywyd yn obaith?
6 神赏善罚恶你所自恃的,不是敬畏 神吗?你所盼望的,不是行为完全吗?
7 Ystyria'n awr, pwy sydd wedi ei ddifetha ac yntau'n ddieuog, a phwy o'r uniawn sydd wedi ei dorri i lawr?
7请想一想,无辜的人有谁灭亡?哪有正直的人被剪除呢?
8 Fel hyn y gwelais i: y rhai sy'n aredig helbul ac yn hau gorthrymder, hwy sy'n ei fedi.
8据我所见,耕耘罪孽的,必收割罪孽;种植毒害的,必收割毒害。
9 Difethir hwy gan anadl Duw, a darfyddant wrth chwythiad ei ffroenau.
9他们因 神的气息而灭亡,因他的怒气而消灭。
10 Peidia rhu'r llew a llais y llew cryf; pydra dannedd y llewod ifanc.
10狮子的咆哮,猛狮的吼声,尽都止息,壮狮的牙齿也都断掉。
11 Bydd farw'r hen lew o eisiau ysglyfaeth, a gwneir yn amddifad genawon y llewes.
11公狮因缺乏猎物而死亡,母狮之子也被分散。
12 "Daeth gair ataf fi yn ddirgel; daliodd fy nghlust sibrwd ohono
12世人微不足道有话偷偷传给我,我的耳朵听到细语;
13 yn y cynnwrf a ddaw gyda gweledigaethau'r nos, pan ddaw trymgwsg ar bawb.
13在夜间因异象而烦扰的心思中,世上都在沉睡的时候,
14 Daeth dychryn a chryndod arnaf, a chynhyrfu fy holl esgyrn.
14恐惧战栗临到我,以致我全身发抖。
15 Llithrodd awel heibio i'm hwyneb, a gwnaeth i flew fy nghorff sefyll.
15有灵拂过我面前,使我毛骨悚然。
16 Safodd yn llonydd, ond ni allwn ddirnad beth oedd; yr oedd ffurf o flaen fy llygaid; bu distawrwydd, yna clywais lais:
16那灵站住,我辨不出他的形状,只见有一形象在我眼前,然后我听见低微的声音,说:
17 'A yw meidrol yn fwy cyfiawn na Duw, ac yn burach na'i Wneuthurwr?
17‘人能在 神面前算为公义吗?人能在他的创造主面前算为洁净吗?
18 Os nad yw Duw'n ymddiried yn ei weision, ac os yw'n cyhuddo'i angylion o gamwedd,
18他的仆役他还不信任,他的天使他也指责过错,
19 beth, ynteu, am y rhai sy'n trigo mewn tai o glai, a'u sylfeini mewn pridd, y rhai a falurir yn gynt na gwyfyn?
19何况那些住在土屋里,根基在尘土中,比蠹虫还容易被压碎的人呢?
20 Torrir hwy i lawr rhwng bore a hwyr, llwyr ddifethir hwy, heb neb yn sylwi.
20在早晚之间就被毁灭,永归沉沦,无人怀念。
21 Pan ddatodir llinyn eu pabell, oni fyddant farw heb ddoethineb?'
21他们帐棚的绳索不是从他们中间抽出来吗?他们死去,不是无智慧而死吗?’”