Welsh

聖經新譯本 (Simplified)

Psalms

10

1 Pam, ARGLWYDD, y sefi draw, ac ymguddio yn amser cyfyngder?
1祈求 神究治恶人耶和华啊!你为什么远远地站着?在患难的时候,你为什么隐藏起来呢?
2 Y mae'r drygionus yn ei falchder yn ymlid yr anghenus; dalier ef yn y cynlluniau a ddyfeisiodd.
2恶人骄横地追逼困苦人,愿恶人陷入自己所设的阴谋中。
3 Oherwydd ymffrostia'r drygionus yn ei chwant ei hun, ac y mae'r barus yn melltithio ac yn dirmygu'r ARGLWYDD.
3恶人夸耀心中的欲望,他称赞贪财的人,却藐视耶和华(“他称赞贪财的人,却藐视耶和华”或译:“贪财的人谤渎耶和华,并藐视他”)。
4 Nid yw'r drygionus ffroenuchel yn ei geisio, nid oes lle i Dduw yn ei holl gynlluniau.
4恶人面带骄傲,说:“耶和华必不追究!”在他的一切思想中,都没有 神。
5 Troellog yw ei ffyrdd bob amser, y mae dy farnau di y tu hwnt iddo; ac am ei holl elynion, fe'u dirmyga.
5他的道路时常稳妥,你的判断高超,他却不放在眼内;他对所有的仇敌都嗤之以鼻。
6 Fe ddywed ynddo'i hun, "Ni'm symudir; trwy'r cenedlaethau ni ddaw niwed ataf."
6他心里说:“我必永不摇动,我决不会遭遇灾难。”
7 Y mae ei enau'n llawn melltith, twyll a thrais; y mae cynnen a drygioni dan ei dafod.
7他口里充满咒诅、诡诈和欺压的话,舌头底下尽是毒害与奸恶。
8 Y mae'n aros mewn cynllwyn yn y pentrefi, ac yn lladd y diniwed yn y dirgel; gwylia ei lygaid am yr anffodus.
8他在村庄里埋伏等候,在隐密处杀害无辜的人,他的眼睛暗地里窥探不幸的人。
9 Llecha'n ddirgel fel llew yn ei ffau; llecha er mwyn llarpio'r truan, ac fe'i deil trwy ei dynnu i'w rwyd;
9他在隐密处埋伏,像狮子埋伏在丛林中;他埋伏要掳走困苦人,他把困苦人拉入自己的网中,掳走了他们。
10 caiff ei ysigo a'i ddarostwng ganddo, ac fe syrthia'r anffodus i'w grafangau.
10他击打,他屈身蹲伏,不幸的人就倒在他的爪下。
11 Dywed yntau ynddo'i hun, "Anghofiodd Duw, cuddiodd ei wyneb ac ni w�l ddim."
11他心里说:“ 神已经忘记了,他已经掩面,永远不看。”
12 Cyfod, ARGLWYDD; O Dduw, cod dy law; nac anghofia'r anghenus.
12耶和华啊!求你起来; 神啊!求你举起手来,不要忘记困苦的人。
13 Pam y mae'r drygionus yn dy ddirmygu, O Dduw, ac yn tybio ynddo'i hun nad wyt yn galw i gyfrif?
13恶人为什么藐视 神,心里说:“你必不追究”呢?
14 Ond yn wir, yr wyt yn edrych ar helynt a gofid, ac yn sylwi er mwyn ei gymryd yn dy law; arnat ti y dibynna'r anffodus, ti sydd wedi cynorthwyo'r amddifad.
14其实你已经看见了,忧患与愁苦你都已经看到,并且放在自己的手中;不幸的人把自己交托你;你是帮助孤儿的。
15 Dryllia nerth y drygionus a'r anfad; chwilia am ei ddrygioni nes ei ddihysbyddu.
15愿你打断恶人和坏人的膀臂,愿你追究他们的恶行,直到清清楚楚。
16 Y mae'r ARGLWYDD yn frenin byth bythoedd; difethir y cenhedloedd o'i dir.
16耶和华作王直到永永远远,列国都从他的地上灭亡。
17 Clywaist, O ARGLWYDD, ddyhead yr anghenus; yr wyt yn cryfhau eu calon wrth wrando arnynt,
17耶和华啊!困苦人的心愿你已经听见,你必坚固他们的心,也必留心听他们的呼求;
18 yn gweinyddu barn i'r amddifad a'r gorthrymedig, rhag i feidrolion beri ofn mwyach.
18好为孤儿和受欺压的人伸冤,使地上的人不再施行恐吓。