Welsh

Young`s Literal Translation

Genesis

37

1 Preswyliodd Jacob yng ngwlad Canaan, y wlad yr ymdeithiodd ei dad ynddi.
1And Jacob dwelleth in the land of his father`s sojournings — in the land of Canaan.
2 Dyma hanes tylwyth Jacob. Yr oedd Joseff yn ddwy ar bymtheg oed, ac yn bugeilio'r praidd gyda'i frodyr, gan helpu meibion Bilha a Silpa, gwragedd ei dad; a chariodd Joseff straeon drwg amdanynt i'w tad.
2These [are] births of Jacob: Joseph, a son of seventeen years, hath been enjoying himself with his brethren among the flock, (and he [is] a youth,) with the sons of Bilhah, and with the sons of Zilpah, his father`s wives, and Joseph bringeth in an account of their evil unto their father.
3 Yr oedd Israel yn caru Joseff yn fwy na'i holl blant, gan mai mab ei henaint ydoedd; a gwnaeth wisg laes iddo.
3And Israel hath loved Joseph more than any of his sons, for he [is] a son of his old age, and hath made for him a long coat;
4 Pan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu yn fwy na'r un ohonynt, rhoesant eu cas arno fel na fedrent ddweud gair caredig wrtho.
4and his brethren see that their father hath loved him more than any of his brethren, and they hate him, and have not been able to speak [to] him peaceably.
5 Cafodd Joseff freuddwyd, a phan ddywedodd wrth ei frodyr amdani, aethant i'w gas�u yn fwy fyth.
5And Joseph dreameth a dream, and declareth to his brethren, and they add still more to hate him.
6 Dywedodd wrthynt, "Gwrandewch, dyma'r freuddwyd a gefais:
6And he saith unto them, `Hear ye, I pray you, this dream which I have dreamed:
7 yr oeddem yn rhwymo ysgubau yn y maes, a dyma f'ysgub i yn codi ar ei sefyll, a daeth eich ysgubau chwi yn gylch o'i chwmpas ac ymgrymu i'm hysgub i."
7that, lo, we are binding bundles in the midst of the field, and lo, my bundle hath arisen, and hath also stood up, and lo, your bundles are round about, and bow themselves to my bundle.`
8 Yna gofynnodd ei frodyr iddo, "Ai ti sydd i deyrnasu arnom? A fyddi di'n arglwydd arnom ni?" Ac aethant i'w gas�u ef yn fwy eto o achos ei freuddwydion a'i eiriau.
8And his brethren say to him, `Dost thou certainly reign over us? dost thou certainly rule over us?` and they add still more to hate him, for his dreams, and for his words.
9 Yna cafodd freuddwyd arall, ac adroddodd amdani wrth ei frodyr a dweud, "Cefais freuddwyd arall: dyna lle'r oedd yr haul a'r lleuad ac un seren ar ddeg yn ymgrymu i mi."
9And he dreameth yet another dream, and recounteth it to his brethren, and saith, `Lo, I have dreamed a dream again, and lo, the sun and the moon, and eleven stars, are bowing themselves to me.`
10 Wedi iddo ei hadrodd wrth ei dad a'i frodyr, ceryddodd ei dad ef, a dweud, "Beth yw'r freuddwyd hon a gefaist? A ddown ni, myfi a'th fam a'th frodyr, i ymgrymu i'r llawr i ti?"
10And he recounteth unto his father, and unto his brethren; and his father pusheth against him, and saith to him, `What [is] this dream which thou hast dreamt? do we certainly come — I, and thy mother, and thy brethren — to bow ourselves to thee, to the earth?`
11 A chenfigennodd ei frodyr wrtho, ond cadwodd ei dad y peth yn ei gof.
11and his brethren are zealous against him, and his father hath watched the matter.
12 Yr oedd ei frodyr wedi mynd i fugeilio praidd eu tad ger Sichem.
12And his brethren go to feed the flock of their father in Shechem,
13 A dywedodd Israel wrth Joseff, "Onid yw dy frodyr yn bugeilio ger Sichem? Tyrd, fe'th anfonaf di atynt." Atebodd yntau, "o'r gorau."
13and Israel saith unto Joseph, `Are not thy brethren feeding in Shechem? come, and I send thee unto them;` and he saith to him, `Here [am] I;`
14 Yna dywedodd wrtho, "Dos i weld sut y mae dy frodyr a'r praidd, a thyrd � gair yn �l i mi." Felly anfonodd ef o ddyffryn Hebron, ac aeth tua Sichem.
14and he saith to him, `Go, I pray thee, see the peace of thy brethren, and the peace of the flock, and bring me back word;` and he sendeth him from the valley of Hebron, and he cometh to Shechem.
15 Cyfarfu gu373?r ag ef pan oedd yn crwydro yn y fro, a gofyn iddo, "Beth wyt ti'n ei geisio?"
15And a man findeth him, and lo, he is wandering in the field, and the man asketh him, saying, `What seekest thou?`
16 Atebodd yntau, "Rwy'n ceisio fy mrodyr; dywed wrthyf ble maent yn bugeilio."
16and he saith, `My brethren I am seeking, declare to me, I pray thee, where they are feeding?`
17 A dywedodd y gu373?r, "Y maent wedi mynd oddi yma, oherwydd clywais hwy'n dweud, 'Awn i Dothan.'" Felly aeth Joseff ar �l ei frodyr, a chafodd hyd iddynt yn Dothan.
17And the man saith, `They have journeyed from this, for I have heard some saying, Let us go to Dothan,` and Joseph goeth after his brethren, and findeth them in Dothan.
18 Gwelsant ef o bell, a chyn iddo gyrraedd atynt gwnaethant gynllwyn i'w ladd,
18And they see him from afar, even before he draweth near unto them, and they conspire against him to put him to death.
19 a dweud wrth ei gilydd, "Dacw'r breuddwydiwr hwnnw'n dod.
19And they say one unto another, `Lo, this man of the dreams cometh;
20 Dewch, gadewch inni ei ladd a'i daflu i ryw bydew, a dweud fod anifail gwyllt wedi ei ddifa; yna cawn weld beth a ddaw o'i freuddwydion."
20and now, come, and we slay him, and cast him into one of the pits, and have said, An evil beast hath devoured him; and we see what his dreams are.`
21 Ond pan glywodd Reuben, achubodd ef o'u gafael a dweud, "Peidiwn �'i ladd."
21And Reuben heareth, and delivereth him out of their hand, and saith, `Let us not smite the life;`
22 Dywedodd Reuben wrthynt, "Peidiwch � thywallt gwaed; taflwch ef i'r pydew hwn sydd yn y diffeithwch, ond peidiwch � gwneud niwed iddo." Dywedodd hyn er mwyn ei achub o'u gafael a'i ddwyn yn �l at ei dad.
22and Reuben saith unto them, `Shed no blood; cast him into this pit which [is] in the wilderness, and put not forth a hand upon him,` — in order to deliver him out of their hand, to bring him back unto his father.
23 A phan ddaeth Joseff at ei frodyr, tynasant ei wisg oddi arno, y wisg laes yr oedd yn ei gwisgo,
23And it cometh to pass, when Joseph hath come unto his brethren, that they strip Joseph of his coat, the long coat which [is] upon him,
24 a'i gymryd a'i daflu i'r pydew. Yr oedd y pydew yn wag, heb ddu373?r ynddo.
24and take him and cast him into the pit, and the pit [is] empty, there is no water in it.
25 Tra oeddent yn eistedd i fwyta, codasant eu golwg a gweld cwmni o Ismaeliaid yn dod ar eu taith o Gilead, a'u camelod yn dwyn glud p�r, balm a myrr, i'w cludo i lawr i'r Aifft.
25And they sit down to eat bread, and they lift up their eyes, and look, and lo, a company of Ishmaelites coming from Gilead, and their camels bearing spices, and balm, and myrrh, going to take [them] down to Egypt.
26 A dywedodd Jwda wrth ei frodyr, "Faint gwell fyddwn o ladd ein brawd a chelu ei waed?
26And Judah saith unto his brethren, `What gain when we slay our brother, and have concealed his blood?
27 Dewch, gadewch inni ei werthu i'r Ismaeliaid; peidiwn � gwneud niwed iddo, oherwydd ein brawd ni a'n cnawd ydyw." Cytunodd ei frodyr.
27Come, and we sell him to the Ishmaelites, and our hands are not on him, for he [is] our brother — our flesh;` and his brethren hearken.
28 Yna, pan ddaeth marchnatwyr o Midian heibio, codasant Joseff o'r pydew, a'i werthu i'r Ismaeliaid am ugain sicl o arian. Aethant hwythau � Joseff i'r Aifft.
28And Midianite merchantmen pass by and they draw out and bring up Joseph out of the pit, and sell Joseph to the Ishmaelites for twenty silverlings, and they bring Joseph into Egypt.
29 Pan aeth Reuben yn �l at y pydew a gweld nad oedd Joseff ynddo, rhwygodd ei ddillad
29And Reuben returneth unto the pit, and lo, Joseph is not in the pit, and he rendeth his garments,
30 a mynd at ei frodyr a dweud, "Nid yw'r bachgen yno; a minnau, i ble'r af?"
30and he returneth unto his brethren, and saith, `The lad is not, and I — whither am I going?`
31 Cymerasant wisg Joseff, a lladd gafr, a throchi'r wisg yn y gwaed.
31And they take the coat of Joseph, and slaughter a kid of the goats, and dip the coat in the blood,
32 Yna aethant �'r wisg laes yn �l at eu tad, a dweud, "Daethom o hyd i hon; edrych di ai gwisg dy fab ydyw."
32and send the long coat, and they bring [it] in unto their father, and say, `This have we found; discern, we pray thee, whether it [is] thy son`s coat or not?`
33 Fe'i hadnabu a dywedodd, "Gwisg fy mab yw hi; anifail gwyllt sydd wedi ei ddifa. Yn wir, y mae Joseff wedi ei larpio."
33And he discerneth it, and saith, `My son`s coat! an evil beast hath devoured him; torn — torn is Joseph!`
34 Yna rhwygodd Jacob ei ddillad a gwisgo sachliain am ei lwynau, a galarodd am ei fab am amser hir.
34And Jacob rendeth his raiment, and putteth sackcloth on his loins, and becometh a mourner for his son many days,
35 A daeth pob un o'i feibion a'i ferched i'w gysuro, ond gwrthododd dderbyn cysur, a dywedodd, "Mewn galar yr af finnau i lawr i'r bedd at fy mab." Ac wylodd ei dad amdano.
35and all his sons and all his daughters rise to comfort him, and he refuseth to comfort himself, and saith, `For — I go down mourning unto my son, to Sheol,` and his father weepeth for him.
36 Gwerthodd y Midianiaid ef yn yr Aifft i Potiffar, swyddog Pharo, pennaeth y gwarchodwyr.
36And the Medanites have sold him unto Egypt, to Potiphar, a eunuch of Pharaoh, head of the executioners.