1 "Y mae pob un a anwyd o wraig yn fyr ei oes ac yn llawn helbul.
1אדם ילוד אשה קצר ימים ושבע רגז׃
2 Y mae fel blodeuyn yn tyfu ac yna'n gwywo; diflanna fel cysgod ac nid erys.
2כציץ יצא וימל ויברח כצל ולא יעמוד׃
3 A roi di sylw i un fel hyn, a'i ddwyn ef i farn gyda thi?
3אף על זה פקחת עינך ואתי תביא במשפט עמך׃
4 Pwy a gaiff lendid allan o aflendid? Neb!
4מי יתן טהור מטמא לא אחד׃
5 Gan fod terfyn i'w ddyddiau, a chan iti rifo'i fisoedd, a gosod iddo ffin nas croesir,
5אם חרוצים ימיו מספר חדשיו אתך חקו עשית ולא יעבור׃
6 yna tro oddi wrtho fel y caiff lonydd, fel gwas cyflog yn mwynhau ei ddiwrnod gwaith.
6שעה מעליו ויחדל עד ירצה כשכיר יומו׃
7 "Er i goeden gael ei thorri, y mae gobaith iddi ailflaguro, ac ni pheidia ei blagur � thyfu.
7כי יש לעץ תקוה אם יכרת ועוד יחליף וינקתו לא תחדל׃
8 Er i'w gwraidd heneiddio yn y ddaear, ac i'w boncyff farweiddio yn y pridd,
8אם יזקין בארץ שרשו ובעפר ימות גזעו׃
9 pan synhwyra ddu373?r fe adfywia, ac fe flagura fel planhigyn ifanc.
9מריח מים יפרח ועשה קציר כמו נטע׃
10 Ond pan fydd rhywun farw, �'n ddi-nerth, a phan rydd ei anadl olaf, nid yw'n bod mwyach.
10וגבר ימות ויחלש ויגוע אדם ואיו׃
11 Derfydd y du373?r o'r llyn; disbyddir a sychir yr afon;
11אזלו מים מני ים ונהר יחרב ויבש׃
12 felly'r meidrol, fe orwedd ac ni chyfyd, ni ddeffry tra pery'r nefoedd, ac nis cynhyrfir o'i gwsg.
12ואיש שכב ולא יקום עד בלתי שמים לא יקיצו ולא יערו משנתם׃
13 O na bait yn fy nghuddio yn Sheol, ac yn fy nghadw o'r golwg nes i'th lid gilio, a phennu amser arbennig imi, a'm dwyn i gof!
13מי יתן בשאול תצפנני תסתירני עד שוב אפך תשית לי חק ותזכרני׃
14 (Pan fydd meidrolyn farw, a gaiff ef fyw drachefn?) Yna fe obeithiwn holl ddyddiau fy llafur, hyd nes i'm rhyddhad ddod.
14אם ימות גבר היחיה כל ימי צבאי איחל עד בוא חליפתי׃
15 Gelwit arnaf, ac atebwn innau; hiraethit am waith dy ddwylo.
15תקרא ואנכי אענך למעשה ידיך תכסף׃
16 Yna cedwit gyfrif o'm camre, heb wylio fy mhechod;
16כי עתה צעדי תספור לא תשמור על חטאתי׃
17 selid fy nhrosedd mewn cod, a chuddid fy nghamwedd.
17חתם בצרור פשעי ותטפל על עוני׃
18 "Ond, fel y diflanna'r mynydd sy'n llithro, ac fel y symud y graig o'i lle,
18ואולם הר נופל יבול וצור יעתק ממקמו׃
19 ac fel y treulir y cerrig gan ddyfroedd, ac y golchir ymaith bridd y ddaear gan lifogydd, felly y gwnei i obaith meidrolyn ddiflannu.
19אבנים שחקו מים תשטף ספיחיה עפר ארץ ותקות אנוש האבדת׃
20 Parhei i'w orthrymu nes derfydd; newidi ei wedd, a'i ollwng.
20תתקפהו לנצח ויהלך משנה פניו ותשלחהו׃
21 Pan anrhydeddir ei blant, ni u373?yr; pan ddarostyngir hwy, ni sylwa.
21יכבדו בניו ולא ידע ויצערו ולא יבין למו׃
22 Ei gnawd ei hun yn unig sy'n ei boeni, a'i fywyd ei hun sy'n ei ofidio."
22אך בשרו עליו יכאב ונפשו עליו תאבל׃