1 "Ond yn awr, Job, gwrando arnaf, a chlustfeinia ar fy ngeiriau i gyd.
1ואולם שמע נא איוב מלי וכל דברי האזינה׃
2 Dyma fi'n agor fy ngwefusau, a'm tafod yn llefaru yn fy ngenau.
2הנה נא פתחתי פי דברה לשוני בחכי׃
3 Y mae fy ngeiriau'n mynegi fy meddwl yn onest, a'm gwefusau wybodaeth yn ddiffuant.
3ישר לבי אמרי ודעת שפתי ברור מללו׃
4 Ysbryd Duw a'm lluniodd, ac anadl yr Hollalluog a'm ceidw'n fyw.
4רוח אל עשתני ונשמת שדי תחיני׃
5 Ateb fi, os medri; trefna dy achos, a saf o'm blaen.
5אם תוכל השיבני ערכה לפני התיצבה׃
6 Ystyria, o flaen Duw yr wyf finnau yr un fath � thithau; o glai y'm lluniwyd innau hefyd.
6הן אני כפיך לאל מחמר קרצתי גם אני׃
7 Ni ddylai arswyd rhagof fi dy barlysu; ni fyddaf yn llawdrwm arnat.
7הנה אמתי לא תבעתך ואכפי עליך לא יכבד׃
8 "Yn wir, dywedaist yn fy nghlyw, a chlywais innau dy eiriau'n glir:
8אך אמרת באזני וקול מלין אשמע׃
9 'Rwy'n l�n, heb drosedd; rwy'n bur heb gamwedd.
9זך אני בלי פשע חף אנכי ולא עון לי׃
10 Ond y mae Duw yn codi cwynion yn fy erbyn, ac yn f'ystyried yn elyn iddo,
10הן תנואות עלי ימצא יחשבני לאויב לו׃
11 yn gosod fy nhraed mewn cyffion, ac yn gwylio fy holl ffyrdd.'
11ישם בסד רגלי ישמר כל ארחתי׃
12 "Nid wyt yn iawn yn hyn, a dyma f'ateb iti: Y mae Duw yn fwy na meidrolyn.
12הן זאת לא צדקת אענך כי ירבה אלוה מאנוש׃
13 Pam yr wyt yn ymgecru ag ef, oherwydd nid oes ateb i'r un o'i eiriau?
13מדוע אליו ריבות כי כל דבריו לא יענה׃
14 Mae Duw yn llefaru unwaith ac eilwaith, ond nid oes neb yn cymryd sylw.
14כי באחת ידבר אל ובשתים לא ישורנה׃
15 Mewn breuddwyd, mewn gweledigaeth nos, pan ddaw trymgwsg ar bobl, pan gysgant yn eu gwelyau,
15בחלום חזיון לילה בנפל תרדמה על אנשים בתנומות עלי משכב׃
16 yna fe wna iddynt wrando, a'u dychryn � rhybuddion,
16אז יגלה אזן אנשים ובמסרם יחתם׃
17 i droi rhywun oddi wrth ei weithred, a chymryd ymaith ei falchder oddi wrtho,
17להסיר אדם מעשה וגוה מגבר יכסה׃
18 a gwaredu ei einioes rhag y pwll, a'i fywyd rhag croesi afon angau.
18יחשך נפשו מני שחת וחיתו מעבר בשלח׃
19 "Fe'i disgyblir ar ei orwedd � chryndod di-baid yn ei esgyrn;
19והוכח במכאוב על משכבו וריב עצמיו אתן׃
20 y mae bwyd yn ffiaidd ganddo, ac nid oes arno chwant am damaid blasus;
20וזהמתו חיתו לחם ונפשו מאכל תאוה׃
21 nycha'i gnawd o flaen fy llygad, a daw'r esgyrn, na welid gynt, i'r amlwg;
21יכל בשרו מראי ושפי עצמותיו לא ראו׃
22 y mae ei einioes ar ymyl y pwll, a'i fywyd ger mangre'r meirw.
22ותקרב לשחת נפשו וחיתו לממתים׃
23 Os oes angel i sefyll drosto � un o blith mil i gyfryngu ac i ddadlau ei hawl drosto,
23אם יש עליו מלאך מליץ אחד מני אלף להגיד לאדם ישרו׃
24 a thrugarhau wrtho gan ddweud, 'Achub ef rhag mynd i'r pwll; y mae pris ei ryddid gennyf fi' �
24ויחננו ויאמר פדעהו מרדת שחת מצאתי כפר׃
25 yna bydd ei gnawd yn iachach nag erioed, wedi ei adfer fel yr oedd yn nyddiau ei ieuenctid.
25רטפש בשרו מנער ישוב לימי עלומיו׃
26 Bydd yn gwedd�o ar Dduw, ac yntau'n ei wrando; bydd yn edrych ar ei wyneb mewn llawenydd, gan ddweud wrth eraill am ei gyfiawnhad
26יעתר אל אלוה וירצהו וירא פניו בתרועה וישב לאנוש צדקתו׃
27 a chanu yn eu gu373?ydd, a dweud, 'Pechais, gan droi oddi wrth uniondeb, ond ni chyfrifwyd hyn yn f'erbyn;
27ישר על אנשים ויאמר חטאתי וישר העויתי ולא שוה לי׃
28 gwaredodd f'einioes rhag mynd i'r pwll, ac fe w�l fy mywyd oleuni.'
28פדה נפשי מעבר בשחת וחיתי באור תראה׃
29 "Gwna Duw hyn i gyd i feidrolyn ddwywaith, ie deirgwaith;
29הן כל אלה יפעל אל פעמים שלוש עם גבר׃
30 fe adfer ei einioes o'r pwll, er mwyn iddo gael gweld goleuni bywyd.
30להשיב נפשו מני שחת לאור באור החיים׃
31 Ystyria, Job, a gwrando arnaf; bydd dawel ac mi lefaraf.
31הקשב איוב שמע לי החרש ואנכי אדבר׃
32 Os oes gennyt ddadl, ateb fi; llefara, oherwydd fy nymuniad yw dy gyfiawnhau.
32אם יש מלין השיבני דבר כי חפצתי צדקך׃
33 Ond os nad oes gennyt ddim i'w ddweud, gwrando arnaf; bydd dawel, a dysgaf ddoethineb i ti."
33אם אין אתה שמע לי החרש ואאלפך חכמה׃