1 "Galw'n awr; a oes rhywun a'th etyb? At ba un o'r rhai sanctaidd y gelli droi?
1קרא נא היש עונך ואל מי מקדשים תפנה׃
2 Y mae dicter yn lladd yr ynfyd, a chenfigen yn dwyn angau i'r ff�l.
2כי לאויל יהרג כעש ופתה תמית קנאה׃
3 Gwelais yr ynfyd yn magu gwraidd, ond ar fyrder melltithiwyd ei drigfan;
3אני ראיתי אויל משריש ואקוב נוהו פתאם׃
4 ac aeth ei blant y tu hwnt i ymwared, wedi eu sathru yn y porth, heb neb i'w hachub.
4ירחקו בניו מישע וידכאו בשער ואין מציל׃
5 Y mae'r newynog yn bwyta'i gynhaeaf ef, ac yn ei gymryd hyd yn oed o blith y drain; ac y mae'r sychedig yn dyheu am eu cyfoeth.
5אשר קצירו רעב יאכל ואל מצנים יקחהו ושאף צמים חילם׃
6 Canys nid o'r pridd y daw gofid, nac o'r ddaear orthrymder;
6כי לא יצא מעפר און ומאדמה לא יצמח עמל׃
7 ond genir dynion i orthrymder, cyn sicred ag y tasga'r gwreichion.
7כי אדם לעמל יולד ובני רשף יגביהו עוף׃
8 "Ond myfi, ceisio Duw a wnawn i, a gosod fy achos o'i flaen ef,
8אולם אני אדרש אל אל ואל אלהים אשים דברתי׃
9 yr un a gyflawna weithredoedd mawr ac anchwiliadwy, rhyfeddodau dirifedi.
9עשה גדלות ואין חקר נפלאות עד אין מספר׃
10 Ef sy'n tywallt y glaw ar y ddaear, a'r dyfroedd ar y meysydd.
10הנתן מטר על פני ארץ ושלח מים על פני חוצות׃
11 Y mae'n codi'r rhai isel i fyny, a dyrchefir y galarwyr i ddiogelwch.
11לשום שפלים למרום וקדרים שגבו ישע׃
12 Y mae'n diddymu cynllwynion y cyfrwys; ni all eu dwylo wneud dim o fudd.
12מפר מחשבות ערומים ולא תעשינה ידיהם תושיה׃
13 Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra, a buan y diflanna cynllun y dichellgar.
13לכד חכמים בערמם ועצת נפתלים נמהרה׃
14 Brwydrant � thywyllwch hyd yn oed liw dydd, ac ymbalfalant ganol dydd fel yn y nos.
14יומם יפגשו חשך וכלילה ימששו בצהרים׃
15 Ond gwared ef yr anghenus o'u gafael, a'r truan o afael y cryf.
15וישע מחרב מפיהם ומיד חזק אביון׃
16 Am hynny y mae gobaith i'r tlawd, ac anghyfiawnder yn cau ei safn.
16ותהי לדל תקוה ועלתה קפצה פיה׃
17 "Dedwydd y sawl a gerydda Duw, ac na wrthyd ddisgyblaeth yr Hollalluog.
17הנה אשרי אנוש יוכחנו אלוה ומוסר שדי אל תמאס׃
18 Ef a ddoluria, ac ef hefyd a rwyma'r dolur; ef a archolla, ond rhydd ei ddwylo feddyginiaeth.
18כי הוא יכאיב ויחבש ימחץ וידו תרפינה׃
19 Fe'th wared di rhag chwe chyfyngder; ac mewn saith, ni ddaw drwg arnat.
19בשש צרות יצילך ובשבע לא יגע בך רע׃
20 Fe'th achub di rhag marw mewn newyn, a rhag y cleddyf mewn brwydr.
20ברעב פדך ממות ובמלחמה מידי חרב׃
21 Cei loches rhag ffrewyll y tafod, ac nid ofni'r dinistr pan ddaw.
21בשוט לשון תחבא ולא תירא משד כי יבוא׃
22 Chwerddi ar ddinistr a newyn, ac ni'th ddychrynir gan fwystfil gwyllt.
22לשד ולכפן תשחק ומחית הארץ אל תירא׃
23 Byddi mewn cynghrair � cherrig y tir, a bydd y bwystfil gwyllt mewn heddwch � thi.
23כי עם אבני השדה בריתך וחית השדה השלמה לך׃
24 Yna gweli fod dy babell yn ddiogel, a phan rifi dy ddiadell, ni bydd un ar goll.
24וידעת כי שלום אהלך ופקדת נוך ולא תחטא׃
25 Canfyddi hefyd mai niferus yw dy dylwyth, a'th epil fel gwellt y maes.
25וידעת כי רב זרעך וצאצאיך כעשב הארץ׃
26 Ei i'r bedd mewn henaint teg, fel y cesglir ysgub yn ei phryd.
26תבוא בכלח אלי קבר כעלות גדיש בעתו׃
27 Chwiliasom hyn yn ddyfal, ac y mae'n wir; gwrando dithau arno, a deall drosot dy hun."
27הנה זאת חקרנוה כן היא שמענה ואתה דע לך׃