1 Pan fydd yr holl bethau hyn wedi digwydd iti, a thithau'n dwyn ar gof i ti dy hun, ymysg yr holl genhedloedd y gyrrodd yr ARGLWYDD dy Dduw di atynt, y dewis a roddais iti rhwng bendith a melltith;
1It shall happen, when all these things have come on you, the blessing and the curse, which I have set before you, and you shall call them to mind among all the nations, where Yahweh your God has driven you,
2 os byddi'n troi'n �l at yr ARGLWYDD dy Dduw �'th holl galon ac �'th holl enaid, a thi a'th blant yn gwrando ar ei lais, yn union fel yr wyf yn gorchymyn iti heddiw,
2and shall return to Yahweh your God, and shall obey his voice according to all that I command you this day, you and your children, with all your heart, and with all your soul;
3 yna bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn adfer llwyddiant iti ac yn tosturio wrthyt, ac yn dy gasglu eto o blith yr holl genhedloedd y gwasgarodd di ynddynt.
3that then Yahweh your God will turn your captivity, and have compassion on you, and will return and gather you from all the peoples, where Yahweh your God has scattered you.
4 Pe byddit wedi dy yrru i'r cwr pellaf dan y nef, byddai'r ARGLWYDD dy Dduw yn dy gasglu ac yn dy gymryd oddi yno.
4If your outcasts are in the uttermost parts of the heavens, from there will Yahweh your God gather you, and from there he will bring you back:
5 Daw'r ARGLWYDD dy Dduw � thi i'r wlad a feddiannodd dy hynafiaid, a byddi dithau'n ei meddiannu; bydd ef yn dy lwyddo ac yn dy wneud yn fwy niferus na'th hynafiaid.
5and Yahweh your God will bring you into the land which your fathers possessed, and you shall possess it; and he will do you good, and multiply you above your fathers.
6 Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn enwaedu dy galon, a chalonnau dy ddisgynyddion, er mwyn iti garu yr ARGLWYDD dy Dduw �'th holl galon ac �'th holl enaid, fel y byddi fyw.
6Yahweh your God will circumcise your heart, and the heart of your seed, to love Yahweh your God with all your heart, and with all your soul, that you may live.
7 A bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn gosod yr holl felltithion hyn ar dy elynion a'th gaseion, a fu'n dy erlid.
7Yahweh your God will put all these curses on your enemies, and on those who hate you, who persecuted you.
8 Byddi di unwaith eto'n gwrando ar lais yr ARGLWYDD ac yn cadw ei holl orchmynion, y rhai yr wyf fi'n eu rhoi iti heddiw.
8You shall return and obey the voice of Yahweh, and do all his commandments which I command you this day.
9 Bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn peri iti lwyddo'n helaeth ym mhopeth a wnei, ac yn ffrwyth dy gorff, a chynnydd dy fuches a chnwd dy dir; oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn ymhyfrydu eto ynot er dy les, fel y bu'n ymhyfrydu yn dy hynafiaid,
9Yahweh your God will make you plenteous in all the work of your hand, in the fruit of your body, and in the fruit of your livestock, and in the fruit of your ground, for good: for Yahweh will again rejoice over you for good, as he rejoiced over your fathers;
10 dim ond iti wrando ar lais yr ARGLWYDD dy Dduw i gadw ei orchmynion a'i reolau, a ysgrifennwyd yn y llyfr cyfraith hwn, a dychwelyd at yr ARGLWYDD dy Dduw �'th holl galon ac �'th holl enaid.
10if you shall obey the voice of Yahweh your God, to keep his commandments and his statutes which are written in this book of the law; if you turn to Yahweh your God with all your heart, and with all your soul.
11 Nid yw'r hyn yr wyf yn ei orchymyn iti heddiw yn rhy anodd iti nac allan o'th gyrraedd.
11For this commandment which I command you this day, it is not too hard for you, neither is it far off.
12 Nid rhywbeth yn y nefoedd yw, iti ddweud, "Pwy a � i fyny i'r nefoedd ar ein rhan, a dod ag ef inni, a dweud wrthym beth ydyw, er mwyn inni allu ei wneud?"
12It is not in heaven, that you should say, “Who shall go up for us to heaven, and bring it to us, and make us to hear it, that we may do it?”
13 Nid rhywbeth y tu hwnt i'r m�r yw ychwaith, iti ddweud, "Pwy a � dros y m�r ar ein rhan, a dod ag ef inni, a dweud wrthym beth ydyw, er mwyn inni allu ei wneud?"
13Neither is it beyond the sea, that you should say, “Who shall go over the sea for us, and bring it to us, and make us to hear it, that we may do it?”
14 Y mae'r gair yn agos iawn atat; y mae yn dy enau ac yn dy galon, er mwyn iti ei wneud.
14But the word is very near to you, in your mouth, and in your heart, that you may do it.
15 Edrych, yr wyf am roi'r dewis iti heddiw rhwng bywyd a marwolaeth, rhwng daioni a drygioni.
15Behold, I have set before you this day life and good, and death and evil;
16 Oherwydd yr wyf fi heddiw yn gorchymyn iti garu'r ARGLWYDD dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd, a chadw ei orchmynion, ei reolau a'i ddeddfau; yna byddi fyw, a chei amlhau, a bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn dy fendithio yn y wlad yr wyt yn mynd iddi i'w meddiannu.
16in that I command you this day to love Yahweh your God, to walk in his ways, and to keep his commandments and his statutes and his ordinances, that you may live and multiply, and that Yahweh your God may bless you in the land where you go in to possess it.
17 Ond os byddi'n troi i ffwrdd ac yn peidio � gwrando, ac yn cael dy ddenu i addoli a gwasanaethu duwiau estron,
17But if your heart turns away, and you will not hear, but shall be drawn away, and worship other gods, and serve them;
18 yna, dyma fi'n dweud wrthyt heddiw, fe'th lwyr ddifodir di, ac nid estynnir dy ddyddiau yn y tir yr wyt yn croesi'r Iorddonen i'w feddiannu.
18I denounce to you this day, that you shall surely perish; you shall not prolong your days in the land, where you pass over the Jordan to go in to possess it.
19 Yr wyf yn galw'r nef a'r ddaear yn dystion yn dy erbyn heddiw, imi roi'r dewis iti rhwng bywyd ac angau, rhwng bendith a melltith. Dewis dithau fywyd, er mwyn iti fyw, tydi a'th ddisgynyddion,
19I call heaven and earth to witness against you this day, that I have set before you life and death, the blessing and the curse: therefore choose life, that you may live, you and your seed;
20 gan garu'r ARGLWYDD dy Dduw, a gwrando ar ei lais a glynu wrtho; oherwydd ef yw dy fywyd, ac ef fydd yn estyn dy ddyddiau iti gael byw yn y tir yr addawodd yr ARGLWYDD i'th dadau, Abraham, Isaac a Jacob, y byddai'n ei roi iddynt.
20to love Yahweh your God, to obey his voice, and to cling to him; for he is your life, and the length of your days; that you may dwell in the land which Yahweh swore to your fathers, to Abraham, to Isaac, and to Jacob, to give them.