Welsh

World English Bible

Psalms

19

1 1 I'r Cyfarwyddwr: Salm. I Ddafydd.0 Y mae'r nefoedd yn adrodd gogoniant Duw, a'r ffurfafen yn mynegi gwaith ei ddwylo.
1The heavens declare the glory of God. The expanse shows his handiwork.
2 Y mae dydd yn llefaru wrth ddydd, a nos yn cyhoeddi gwybodaeth wrth nos.
2Day after day they pour forth speech, and night after night they display knowledge.
3 Nid oes iaith na geiriau ganddynt, ni chlywir eu llais;
3There is no speech nor language, where their voice is not heard.
4 eto fe � eu sain allan drwy'r holl ddaear a'u lleferydd hyd eithafoedd byd. Ynddynt gosododd babell i'r haul,
4Their voice has gone out through all the earth, their words to the end of the world. In them he has set a tent for the sun,
5 sy'n dod allan fel priodfab o'i ystafell, yn llon fel campwr yn barod i redeg cwrs.
5which is as a bridegroom coming out of his room, like a strong man rejoicing to run his course.
6 O eithaf y nefoedd y mae'n codi, a'i gylch hyd yr eithaf arall; ac nid oes dim yn cuddio rhag ei wres.
6His going forth is from the end of the heavens, his circuit to its ends; There is nothing hidden from its heat.
7 Y mae cyfraith yr ARGLWYDD yn berffaith, yn adfywio'r enaid; y mae tystiolaeth yr ARGLWYDD yn sicr, yn gwneud y syml yn ddoeth;
7Yahweh’s law is perfect, restoring the soul. Yahweh’s testimony is sure, making wise the simple.
8 y mae deddfau'r ARGLWYDD yn gywir, yn llawenhau'r galon; y mae gorchymyn yr ARGLWYDD yn bur, yn goleuo'r llygaid;
8Yahweh’s precepts are right, rejoicing the heart. Yahweh’s commandment is pure, enlightening the eyes.
9 y mae ofn yr ARGLWYDD yn l�n, yn para am byth; y mae barnau'r ARGLWYDD yn wir, yn gyfiawn bob un.
9The fear of Yahweh is clean, enduring forever. Yahweh’s ordinances are true, and righteous altogether.
10 Mwy dymunol ydynt nag aur, na llawer o aur coeth, a melysach na m�l, ac na diferion diliau m�l.
10More to be desired are they than gold, yes, than much fine gold; sweeter also than honey and the extract of the honeycomb.
11 Trwyddynt hwy hefyd rhybuddir fi, ac o'u cadw y mae gwobr fawr.
11Moreover by them is your servant warned. In keeping them there is great reward.
12 Pwy sy'n dirnad ei gamgymeriadau? Glanha fi oddi wrth fy meiau cudd.
12Who can discern his errors? Forgive me from hidden errors.
13 Cadw dy was oddi wrth bechodau beiddgar, rhag iddynt gael y llaw uchaf arnaf. Yna byddaf yn ddifeius, ac yn ddieuog o bechod mawr.
13Keep back your servant also from presumptuous sins. Let them not have dominion over me. Then I will be upright. I will be blameless and innocent of great transgression.
14 Bydded geiriau fy ngenau'n dderbyniol gennyt, a myfyrdod fy nghalon yn gymeradwy i ti, O ARGLWYDD, fy nghraig a'm prynwr.
14Let the words of my mouth and the meditation of my heart be acceptable in your sight, Yahweh, my rock, and my redeemer.