1ויען איוב ויאמר׃
1 Atebodd Job:
2אמנם כי אתם עם ועמכם תמות חכמה׃
2 "Yn wir, chwi yw'r bobl, a chyda chwi y derfydd doethineb!
3גם לי לבב כמוכם לא נפל אנכי מכם ואת מי אין כמו אלה׃
3 Ond y mae gennyf finnau ddeall fel chwithau, ac nid wyf yn salach na chwi; yn wir, pwy sydd heb wybod hyn?
4שחק לרעהו אהיה קרא לאלוה ויענהו שחוק צדיק תמים׃
4 "Yr wyf yn gyff gwawd i'm cyfeillion, er imi alw ar Dduw ac iddo yntau ateb; y cyfiawn a'r perffaith yn gyff gwawd!
5לפיד בוז לעשתות שאנן נכון למועדי רגל׃
5 Dirmygir dinistr gan y rhai sydd mewn esmwythyd, a sefydlogrwydd gan y rhai y mae eu traed yn llithro.
6ישליו אהלים לשדדים ובטחות למרגיזי אל לאשר הביא אלוה בידו׃
6 Llwyddiant sydd ym mhebyll yr anrheithwyr, a diogelwch i'r rhai sy'n blino Duw � rhai wedi cael Duw dan eu bawd!
7ואולם שאל נא בהמות ותרך ועוף השמים ויגד לך׃
7 "Ond yn awr gofyn i'r anifeiliaid dy ddysgu, ac i adar y nefoedd fynegi i ti,
8או שיח לארץ ותרך ויספרו לך דגי הים׃
8 neu i blanhigion y tir dy hyfforddi, ac i bysgod y m�r dy gyfarwyddo.
9מי לא ידע בכל אלה כי יד יהוה עשתה זאת׃
9 Pwy na ddealla oddi wrth hyn i gyd mai llaw'r ARGLWYDD a'u gwnaeth?
10אשר בידו נפש כל חי ורוח כל בשר איש׃
10 Yn ei law ef y mae einioes pob peth byw, ac anadl pob un meidrol.
11הלא אזן מלין תבחן וחך אכל יטעם לו׃
11 Onid yw'r glust yn profi geiriau, fel y mae taflod y genau yn blasu bwyd?
12בישישים חכמה וארך ימים תבונה׃
12 "Ai ymhlith yr oedrannus y ceir doethineb, a deall gyda'r rhai sydd ymlaen mewn dyddiau?
13עמו חכמה וגבורה לו עצה ותבונה׃
13 Gan Dduw y mae doethineb a chryfder, a chyngor a deall sydd eiddo iddo.
14הן יהרוס ולא יבנה יסגר על איש ולא יפתח׃
14 Os dinistria, nid adeiledir: os carchara neb, nid oes rhyddhad.
15הן יעצר במים ויבשו וישלחם ויהפכו ארץ׃
15 Os atal ef y dyfroedd, yna y mae sychder; a phan ollwng hwy, yna gorlifant y ddaear.
16עמו עז ותושיה לו שגג ומשגה׃
16 Ganddo ef y mae nerth a gwir ddoethineb; ef biau'r sawl a dwyllir a'r sawl sy'n twyllo.
17מוליך יועצים שולל ושפטים יהולל׃
17 Gwna i gynghorwyr gerdded yn droednoeth, a gwawdia farnwyr.
18מוסר מלכים פתח ויאסר אזור במתניהם׃
18 Y mae'n datod gwregys brenhinoedd, ac yn rhwymo carpiau am eu llwynau.
19מוליך כהנים שולל ואתנים יסלף׃
19 Gwna i offeiriaid gerdded yn droednoeth, a lloria'r rhai sefydledig.
20מסיר שפה לנאמנים וטעם זקנים יקח׃
20 Diddyma ymadrodd y rhai y credir ynddynt, a chymer graffter yr henuriaid oddi wrthynt.
21שופך בוז על נדיבים ומזיח אפיקים רפה׃
21 Fe dywallt ddirmyg ar bendefigion, a gwanhau nerth y cryfion.
22מגלה עמקות מני חשך ויצא לאור צלמות׃
22 Y mae'n datguddio cyfrinachau o'r tywyllwch, ac yn troi'r fagddu yn oleuni.
23משגיא לגוים ויאבדם שטח לגוים וינחם׃
23 Fe amlha genhedloedd, ac yna fe'u dinistria; fe ehanga genhedloedd, ac yna fe'u dwg ymaith.
24מסיר לב ראשי עם הארץ ויתעם בתהו לא דרך׃
24 Diddyma farn penaethiaid y ddaear, a pheri iddynt grwydro mewn diffeithwch di-ffordd;
25ימששו חשך ולא אור ויתעם כשכור׃
25 ymbalfalant yn y tywyllwch heb oleuni; fe wna iddynt simsanu fel meddwon.