1הן כל ראתה עיני שמעה אזני ותבן לה׃
1 "Gwelodd fy llygad hyn i gyd; clywodd fy nghlust ef, a'i ddeall.
2כדעתכם ידעתי גם אני לא נפל אנכי מכם׃
2 Rwyf finnau'n deall gystal � chwithau; nid wyf yn ddim salach na chwi.
3אולם אני אל שדי אדבר והוכח אל אל אחפץ׃
3 Eto �'r Hollalluog y dymunaf siarad, a dadlau fy achos gyda Duw;
4ואולם אתם טפלי שקר רפאי אלל כלכם׃
4 ond yr ydych chwi'n palu celwydd, a'r cwbl ohonoch yn plethu anwiredd.
5מי יתן החרש תחרישון ותהי לכם לחכמה׃
5 O na fyddech yn cadw'n ddistaw! Hynny a fyddai'n ddoeth i chwi.
6שמעו נא תוכחתי ורבות שפתי הקשיבו׃
6 Gwrandewch yn awr ar fy achos, a rhowch ystyriaeth i'm dadl.
7הלאל תדברו עולה ולו תדברו רמיה׃
7 A ddywedwch gelwydd dros Dduw, a thwyll er ei fwyn?
8הפניו תשאון אם לאל תריבון׃
8 A gymerwch chwi ei blaid, a dadlau dros Dduw?
9הטוב כי יחקר אתכם אם כהתל באנוש תהתלו בו׃
9 A fydd yn dda arnoch pan chwilia ef chwi? A ellwch ei dwyllo ef fel y twyllir meidrolyn?
10הוכח יוכיח אתכם אם בסתר פנים תשאון׃
10 Bydd ef yn sicr o'ch ceryddu os cymerwch ffafriaeth yn y dirgel.
11הלא שאתו תבעת אתכם ופחדו יפל עליכם׃
11 Onid yw ei fawredd yn eich dychryn? Oni ddisgyn ei arswyd arnoch?
12זכרניכם משלי אפר לגבי חמר גביכם׃
12 Geiriau lludw yw eich gwirebau, a chlai yw eich amddiffyniad.
13החרישו ממני ואדברה אני ויעבר עלי מה׃
13 "Byddwch ddistaw, a gadewch i mi lefaru, a doed a ddelo arnaf.
14על מה אשא בשרי בשני ונפשי אשים בכפי׃
14 Cymeraf fy nghnawd rhwng fy nannedd, a'm heinioes yn fy nwylo.
15הן יקטלני לא איחל אך דרכי אל פניו אוכיח׃
15 Yn sicr, fe'm lladd; nid oes gobaith imi; eto amddiffynnaf fy muchedd o'i flaen.
16גם הוא לי לישועה כי לא לפניו חנף יבוא׃
16 A hyn sy'n rhoi hyder i mi, na all neb annuwiol fynd ato.
17שמעו שמוע מלתי ואחותי באזניכם׃
17 Gwrandewch yn astud ar fy ngeiriau, a rhowch glust i'm tystiolaeth.
18הנה נא ערכתי משפט ידעתי כי אני אצדק׃
18 Dyma fi wedi trefnu f'achos; gwn y caf fy nghyfiawnhau.
19מי הוא יריב עמדי כי עתה אחריש ואגוע׃
19 Pwy sydd i ddadlau � mi, i wneud imi dewi a rhoi i fyny'r ysbryd?
20אך שתים אל תעש עמדי אז מפניך לא אסתר׃
20 Gwna ddau beth yn unig imi, ac nid ymguddiaf oddi wrthyt:
21כפך מעלי הרחק ואמתך אל תבעתני׃
21 symud dy law oddi arnaf, fel na'm dychryner gan dy arswyd;
22וקרא ואנכי אענה או אדבר והשיבני׃
22 yna galw arnaf ac atebaf finnau, neu gad i mi siarad a rho di ateb.
23כמה לי עונות וחטאות פשעי וחטאתי הדיעני׃
23 Beth yw nifer fy meiau a'm pechodau? Dangos imi fy nhrosedd a'm pechod.
24למה פניך תסתיר ותחשבני לאויב לך׃
24 Pam yr wyt yn cuddio dy wyneb, ac yn f'ystyried yn elyn iti?
25העלה נדף תערוץ ואת קש יבש תרדף׃
25 A ddychryni di ddeilen grin, ac ymlid soflyn sych?
26כי תכתב עלי מררות ותורישני עונות נעורי׃
26 Oherwydd dygaist bethau chwerw yn f'erbyn, a gwneud imi etifeddu drygioni fy ieuenctid.
27ותשם בסד רגלי ותשמור כל ארחותי על שרשי רגלי תתחקה׃
27 Gosodaist fy nhraed mewn cyffion (yr wyt yn gwylio fy holl ffyrdd), a rhoist nod ar wadnau fy nhraed.
28והוא כרקב יבלה כבגד אכלו עש׃
28 Ond derfydd dyn fel costrel groen, fel dilledyn wedi ei ysu gan wyfyn.