1ועתה שחקו עלי צעירים ממני לימים אשר מאסתי אבותם לשית עם כלבי צאני׃
1 "Ond yn awr y maent yn chwerthin am fy mhen, ie, rhai sy'n iau na mi, rhai na buaswn yn ystyried eu tadau i'w gosod gyda'm cu373?n defaid.
2גם כח ידיהם למה לי עלימו אבד כלח׃
2 Pa werth yw cryfder eu dwylo i mi, gan fod eu hegni wedi diflannu?
3בחסר ובכפן גלמוד הערקים ציה אמש שואה ומשאה׃
3 Yn amser angen a newyn y maent yn ddifywyd, yn crafu yn y tir sych a diffaith.
4הקטפים מלוח עלי שיח ושרש רתמים לחמם׃
4 Casglant yr hocys a dail y prysglwyn a gwraidd y banadl i'w cadw eu hunain yn gynnes.
5מן גו יגרשו יריעו עלימו כגנב׃
5 Erlidir hwy o blith pobl, a chodir llais yn eu herbyn fel yn erbyn lleidr.
6בערוץ נחלים לשכן חרי עפר וכפים׃
6 Gwneir iddynt drigo yn agennau'r nentydd, ac mewn tyllau yn y ddaear a'r creigiau.
7בין שיחים ינהקו תחת חרול יספחו׃
7 Y maent yn nadu o ganol y perthi; closiant at ei gilydd o dan y llwyni.
8בני נבל גם בני בלי שם נכאו מן הארץ׃
8 Pobl ynfyd a dienw ydynt; fe'u gyrrwyd allan o'r tir.
9ועתה נגינתם הייתי ואהי להם למלה׃
9 "Ond yn awr myfi yw testun eu gwatwargerdd; yr wyf yn destun gwawd iddynt.
10תעבוני רחקו מני ומפני לא חשכו רק׃
10 Ffieiddiant fi a chadw draw oddi wrthyf, ac nid yw'n ddim ganddynt boeri yn fy wyneb.
11כי יתרו פתח ויענני ורסן מפני שלחו׃
11 Pan ryddha ef raff a'm cystuddio, taflant hwythau'r enfa yn fy ngu373?ydd.
12על ימין פרחח יקומו רגלי שלחו ויסלו עלי ארחות אידם׃
12 Cyfyd y dihirod yn f'erbyn ar y dde; gorfodant fi i gerdded ymlaen, ac yna codant rwystrau imi ar y ffyrdd.
13נתסו נתיבתי להותי יעילו לא עזר למו׃
13 Maluriant fy llwybrau, ychwanegant at f'anffawd, ac nid oes neb yn eu rhwystro.
14כפרץ רחב יאתיו תחת שאה התגלגלו׃
14 D�nt arnaf fel trwy fwlch llydan; rhuthrant trwy ganol y dinistr.
15ההפך עלי בלהות תרדף כרוח נדבתי וכעב עברה ישעתי׃
15 Daeth dychryniadau arnaf; gwasgerir fy urddas fel gan wynt; diflannodd fy llwyddiant fel cwmwl.
16ועתה עלי תשתפך נפשי יאחזוני ימי עני׃
16 "Yn awr llewygodd fy ysbryd, cydiodd dyddiau cystudd ynof.
17לילה עצמי נקר מעלי וערקי לא ישכבון׃
17 Dirboenir f'esgyrn drwy'r nos, ac ni lonydda fy nghnofeydd.
18ברב כח יתחפש לבושי כפי כתנתי יאזרני׃
18 Cydiant yn nerthol yn fy nillad, a gafael ynof wrth goler fy mantell.
19הרני לחמר ואתמשל כעפר ואפר׃
19 Taflwyd fi i'r llaid, ac ystyrir fi fel llwch a lludw.
20אשוע אליך ולא תענני עמדתי ותתבנן בי׃
20 Gwaeddaf arnat am gymorth, ond nid wyt yn f'ateb; safaf o'th flaen, ond ni chymeri sylw ohonof.
21תהפך לאכזר לי בעצם ידך תשטמני׃
21 Yr wyt wedi troi'n greulon tuag ataf, ac yr wyt yn ymosod arnaf �'th holl nerth.
22תשאני אל רוח תרכיבני ותמגגני תשוה׃
22 Fe'm codi i fyny i farchogaeth y gwynt, a'm bwrw yma ac acw i ddannedd y storm.
23כי ידעתי מות תשיבני ובית מועד לכל חי׃
23 Gwn yn sicr mai i farwolaeth y'm dygi, i'r lle a dynghedwyd i bob un byw.
24אך לא בעי ישלח יד אם בפידו להן שוע׃
24 "Onid yw un dan adfeilion yn estyn allan ei law ac yn gweiddi am ymwared yn ei ddinistr?
25אם לא בכיתי לקשה יום עגמה נפשי לאביון׃
25 Oni wylais dros yr un yr oedd yn galed arno, a gofidio dros y tlawd?
26כי טוב קויתי ויבא רע ואיחלה לאור ויבא אפל׃
26 Eto pan obeithiais i am ddaioni, daeth drwg; pan ddisgwyliais am oleuni, dyna dywyllwch.
27מעי רתחו ולא דמו קדמני ימי עני׃
27 Y mae cyffro o'm mewn; ni chaf lonydd, daeth dyddiau gofid arnaf.
28קדר הלכתי בלא חמה קמתי בקהל אשוע׃
28 Af o gwmpas yn groenddu, ond nid gan wres haul; codaf i fyny yn y gynulleidfa i ymbil am gymorth.
29אח הייתי לתנים ורע לבנות יענה׃
29 Yr wyf yn frawd i'r siacal, ac yn gyfaill i'r estrys.
30עורי שחר מעלי ועצמי חרה מני חרב׃
30 Duodd fy nghroen, a llosgodd f'esgyrn gan wres.
31ויהי לאבל כנרי ועגבי לקול בכים׃
31 Aeth fy nhelyn i'r cywair lleddf, a'm ffliwt i seinio galar.