Hebrew: Modern

Welsh

Job

34

1ויען אליהוא ויאמר׃
1 Dywedodd Elihu:
2שמעו חכמים מלי וידעים האזינו לי׃
2 "Gwrandewch ar fy ngeiriau, chwi ddoethion; clustfeiniwch arnaf, chwi rai deallus.
3כי אזן מלין תבחן וחך יטעם לאכל׃
3 Oherwydd y glust sydd yn profi geiriau, fel y profir bwyd gan daflod y genau.
4משפט נבחרה לנו נדעה בינינו מה טוב׃
4 Gadewch i ni ddewis yr hyn sy'n iawn, a phenderfynu gyda'n gilydd beth sy'n dda.
5כי אמר איוב צדקתי ואל הסיר משפטי׃
5 Dywedodd Job, 'Yr wyf yn gyfiawn, ond trodd Duw farn oddi wrthyf.
6על משפטי אכזב אנוש חצי בלי פשע׃
6 Er fy mod yn iawn, fe'm gwneir yn gelwyddog; y mae fy archoll yn ffyrnig, a minnau heb droseddu.'
7מי גבר כאיוב ישתה לעג כמים׃
7 Pwy sydd fel Job, yn drachtio dirmyg fel du373?r,
8וארח לחברה עם פעלי און וללכת עם אנשי רשע׃
8 yn cadw cwmni � rhai ofer, ac yn gwag-symera gyda'r drygionus?
9כי אמר לא יסכן גבר ברצתו עם אלהים׃
9 Oherwydd dywedodd, 'Nid yw o werth i neb ymhyfrydu yn Nuw.'
10לכן אנשי לבב שמעו לי חללה לאל מרשע ושדי מעול׃
10 "Am hyn, chwi bobl ddeallus, gwrandewch arnaf. Pell y bo oddi wrth Dduw wneud drygioni, ac oddi wrth yr Hollalluog weithredu'n anghyfiawn.
11כי פעל אדם ישלם לו וכארח איש ימצאנו׃
11 Oherwydd fe d�l ef i bob un yn �l ei weithred, a'i wobrwyo yn �l ei ffordd o fyw.
12אף אמנם אל לא ירשיע ושדי לא יעות משפט׃
12 Yn wir, nid yw Duw byth yn gwneud drwg, ac nid yw'r Hollalluog yn gwyrdroi barn.
13מי פקד עליו ארצה ומי שם תבל כלה׃
13 Pwy a'i gosododd ef mewn awdurdod ar y ddaear, a rhoi'r byd cyfan iddo?
14אם ישים אליו לבו רוחו ונשמתו אליו יאסף׃
14 Pe byddai ef yn rhoi ei fryd ar ddwyn ei ysbryd a'i anadl yn �l ato'i hun,
15יגוע כל בשר יחד ואדם על עפר ישוב׃
15 yna byddai pob cnawd yn marw, a phawb yn dychwelyd i'r pridd.
16ואם בינה שמעה זאת האזינה לקול מלי׃
16 "Os oes gennyt ti ddeall, gwrando hyn, a rho sylw i'm geiriau.
17האף שונא משפט יחבוש ואם צדיק כביר תרשיע׃
17 A all un sy'n cas�u barn lywodraethu? A gondemni di'r un cyfiawn cadarn?
18האמר למלך בליעל רשע אל נדיבים׃
18 Gall ef ddweud wrth frenin, 'Y dihiryn', ac wrth lywodraethwyr, 'Y cnafon';
19אשר לא נשא פני שרים ולא נכר שוע לפני דל כי מעשה ידיו כלם׃
19 nid yw'n dangos ffafr at swyddogion, nac yn rhoi'r cyfoethog o flaen y tlawd, oherwydd gwaith ei ddwylo yw pob un ohonynt.
20רגע ימתו וחצות לילה יגעשו עם ויעברו ויסירו אביר לא ביד׃
20 Mewn moment byddant farw, yng nghanol nos; trenga'r cyfoethog, a diflannu; symudir ymaith y cryf heb ymdrech.
21כי עיניו על דרכי איש וכל צעדיו יראה׃
21 "Y mae ei lygaid yn gwylio ffyrdd pob un, a gw�l ei holl gamau.
22אין חשך ואין צלמות להסתר שם פעלי און׃
22 Nid oes tywyllwch na chaddug lle y gall drwgweithredwyr guddio.
23כי לא על איש ישים עוד להלך אל אל במשפט׃
23 Nid oes amser wedi ei drefnu i neb ddod i farn o flaen Duw;
24ירע כבירים לא חקר ויעמד אחרים תחתם׃
24 y mae ef yn dryllio'r cryfion heb eu profi, ac yn gosod eraill yn eu lle.
25לכן יכיר מעבדיהם והפך לילה וידכאו׃
25 Y mae'n adnabod eu gweithredoedd, ac yn eu dymchwel a'u dryllio mewn noson.
26תחת רשעים ספקם במקום ראים׃
26 Y mae'n eu taro o achos eu drygioni, a hynny yng ngu373?ydd pawb,
27אשר על כן סרו מאחריו וכל דרכיו לא השכילו׃
27 am eu bod yn troi oddi wrtho, ac yn gwrthod ystyried yr un o'i ffyrdd.
28להביא עליו צעקת דל וצעקת עניים ישמע׃
28 Gwn�nt i gri'r tlawd ddod ato, ac iddo glywed gwaedd yr anghenus.
29והוא ישקט ומי ירשע ויסתר פנים ומי ישורנו ועל גוי ועל אדם יחד׃
29 Ond y mae ef yn dawel, pwy bynnag a wna ddrwg; y mae'n cuddio'i wyneb, pwy bynnag a'i cais � boed genedl neu unigolyn �
30ממלך אדם חנף ממקשי עם׃
30 rhag i neb annuwiol lywodraethu, a maglu pobl.
31כי אל אל האמר נשאתי לא אחבל׃
31 "Os dywed un wrth Dduw, 'Euthum ar gyfeiliorn, ni wnaf ddrwg eto;
32בלעדי אחזה אתה הרני אם עול פעלתי לא אסיף׃
32 am na allaf fi weld, hyffordda di fi; os gwneuthum ddrygioni, ni chwanegaf ato' �
33המעמך ישלמנה כי מאסת כי אתה תבחר ולא אני ומה ידעת דבר׃
33 a wyt ti, sydd wedi ei wrthod, yn tybio y bydd ef yn fodlon ar hynny? Ti sydd i ddewis, nid fi; traetha yr hyn a wyddost.
34אנשי לבב יאמרו לי וגבר חכם שמע לי׃
34 Y mae pobl ddeallus yn siarad � mi, a rhai doeth yn gwrando arnaf.
35איוב לא בדעת ידבר ודבריו לא בהשכיל׃
35 Ond y mae Job yn llefaru heb ystyried, ac nid yw ei eiriau yn ddeallus.
36אבי יבחן איוב עד נצח על תשבת באנשי און׃
36 O na phrofid Job i'r eithaf, gan fod ei atebion fel rhai pobl ddrwg!
37כי יסיף על חטאתו פשע בינינו יספוק וירב אמריו לאל׃
37 Y mae'n ychwanegu gwrthryfel at ei bechod, yn codi amheuaeth ynghylch ei drosedd yn ein plith, ac yn amlhau geiriau yn erbyn Duw."