1ויען אליהו ויאמר׃
1 Dywedodd Elihu:
2הזאת חשבת למשפט אמרת צדקי מאל׃
2 "A gredi di fod hyn yn iawn? A wyt ti'n honni bod yn gyfiawn o flaen Duw,
3כי תאמר מה יסכן לך מה אעיל מחטאתי׃
3 a thithau'n dweud, 'Pa werth ydyw i ti, neu pa fantais i mi fy hun fod heb bechu?'?
4אני אשיבך מלין ואת רעיך עמך׃
4 Fe roddaf fi'r ateb iti, a hefyd i'th gyfeillion.
5הבט שמים וראה ושור שחקים גבהו ממך׃
5 Edrych ar yr awyr, ac ystyria, a sylwa ar y cymylau sydd uwch dy ben.
6אם חטאת מה תפעל בו ורבו פשעיך מה תעשה לו׃
6 Os pechaist, pa wahaniaeth yw iddo ef? Ac os amlha dy droseddau, beth a wna hynny iddo ef?
7אם צדקת מה תתן לו או מה מידך יקח׃
7 Os wyt yn gyfiawn, beth yw'r fantais iddo ef, neu beth a dderbyn ef o'th law?
8לאיש כמוך רשעך ולבן אדם צדקתך׃
8 � meidrolion fel ti y mae a wnelo dy ddrygioni, ac � phobl y mae a wnelo dy gyfiawnder.
9מרב עשוקים יזעיקו ישועו מזרוע רבים׃
9 "Pan waedda pobl dan faich gorthrwm, a llefain am waredigaeth o afael y mawrion,
10ולא אמר איה אלוה עשי נתן זמרות בלילה׃
10 ni ddywed neb, 'Ble mae Duw, fy ngwneuthurwr, a rydd destun c�n yn y nos,
11מלפנו מבהמות ארץ ומעוף השמים יחכמנו׃
11 ac a'n gwna'n fwy deallus na'r anifeiliaid gwylltion, ac yn fwy doeth nag adar yr awyr?'
12שם יצעקו ולא יענה מפני גאון רעים׃
12 Felly, er iddynt weiddi, nid etyb ef, o achos balchder y drygionus.
13אך שוא לא ישמע אל ושדי לא ישורנה׃
13 Ofer yn wir! Nid yw Duw'n gwrando arno, ac nid yw'r Hollalluog yn cymryd sylw ohono.
14אף כי תאמר לא תשורנו דין לפניו ותחולל לו׃
14 nac ychwaith ohonot tithau pan ddywedi nad wyt yn ei weld, a bod yr achos o'i flaen, a'th fod yn dal i ddisgwyl wrtho.
15ועתה כי אין פקד אפו ולא ידע בפש מאד׃
15 Ond yn awr, am nad yw ef yn cosbi yn ei ddig, ac nad yw'n sylwi'n fanwl ar gamwedd,
16ואיוב הבל יפצה פיהו בבלי דעת מלין יכבר׃
16 fe lefarodd Job yn ynfyd, ac amlhau geiriau heb ddeall."