1ויהושע זקן בא בימים ויאמר יהוה אליו אתה זקנתה באת בימים והארץ נשארה הרבה מאד לרשתה׃
1 Wedi i Josua heneiddio a mynd i oed, dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, "Yr wyt yn hen ac wedi mynd i oed, ac y mae llawer iawn o dir yn aros i'w feddiannu.
2זאת הארץ הנשארת כל גלילות הפלשתים וכל הגשורי׃
2 Dyma'r tir sydd ar �l: holl ardaloedd y Philistiaid ac eiddo'r Gesuriaid i gyd
3מן השיחור אשר על פני מצרים ועד גבול עקרון צפונה לכנעני תחשב חמשת סרני פלשתים העזתי והאשדודי האשקלוני הגתי והעקרוני והעוים׃
3 (i'r Canaaneaid y cyfrifir y tir o'r afon Sihor sydd ar drothwy'r Aifft hyd derfyn Ecron i'r gogledd, sef cylchoedd pum teyrn y Philistiaid: Gasa, Asdod, Ascalon, Gath ac Ecron), a thir yr Afiaid
4מתימן כל ארץ הכנעני ומערה אשר לצידנים עד אפקה עד גבול האמרי׃
4 yn y de; holl wlad y Canaaneaid, yn cynnwys Meara sy'n perthyn i'r Sidoniaid, hyd at Affec a therfyn yr Amoriaid;
5והארץ הגבלי וכל הלבנון מזרח השמש מבעל גד תחת הר חרמון עד לבוא חמת׃
5 hefyd tir y Gebaliaid a Lebanon i gyd i'r dwyrain o Baal-gad islaw Mynydd Hermon, hyd at Lebo-hamath.
6כל ישבי ההר מן הלבנון עד משרפת מים כל צידנים אנכי אורישם מפני בני ישראל רק הפלה לישראל בנחלה כאשר צויתיך׃
6 Byddaf yn gyrru ymaith y Sidoniaid i gyd, holl drigolion y mynydd-dir, o Lebanon hyd Misreffoth-maim, o flaen yr Israeliaid; rhanna di'r etifeddiaeth i Israel fel y gorchmynnais iti.
7ועתה חלק את הארץ הזאת בנחלה לתשעת השבטים וחצי השבט המנשה׃
7 Rhanna'n awr y wlad hon yn etifeddiaeth i'r naw llwyth ac i hanner llwyth Manasse."
8עמו הראובני והגדי לקחו נחלתם אשר נתן להם משה בעבר הירדן מזרחה כאשר נתן להם משה עבד יהוה׃
8 Y mae hanner arall y llwyth, a hefyd Reuben a Gad, wedi cymryd yr etifeddiaeth a roddodd Moses iddynt i'r dwyrain o'r Iorddonen, fel yr oedd ef, gwas yr ARGLWYDD, wedi ei nodi ar eu cyfer:
9מערוער אשר על שפת נחל ארנון והעיר אשר בתוך הנחל וכל המישר מידבא עד דיבון׃
9 o Aroer sydd ar ymyl nant Arnon, ac o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, gyda'r holl wastadedd o Medeba hyd Dibon;
10וכל ערי סיחון מלך האמרי אשר מלך בחשבון עד גבול בני עמון׃
10 a holl ddinasoedd Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn teyrnasu yn Hesbon, hyd at derfyn yr Ammoniaid,
11והגלעד וגבול הגשורי והמעכתי וכל הר חרמון וכל הבשן עד סלכה׃
11 a Gilead hefyd a thiriogaeth y Gesuriaid a'r Maachathiaid, sef holl fynydd-dir Hermon, a Basan i gyd hyd at Salcha,
12כל ממלכות עוג בבשן אשר מלך בעשתרות ובאדרעי הוא נשאר מיתר הרפאים ויכם משה וירשם׃
12 sef y cwbl yn Basan o deyrnas Og a lywodraethai o Astaroth ac Edrei. Yr oedd ef yn un o weddill y Reffaim a drawyd gan Moses a'u gyrru allan.
13ולא הורישו בני ישראל את הגשורי ואת המעכתי וישב גשור ומעכת בקרב ישראל עד היום הזה׃
13 Ni yrrodd yr Israeliaid y Gesuriaid a'r Maachathiaid allan, ond y maent yn byw ymysg yr Israeliaid hyd heddiw.
14רק לשבט הלוי לא נתן נחלה אשי יהוה אלהי ישראל הוא נחלתו כאשר דבר לו׃
14 Ni roddwyd etifeddiaeth i lwyth Lefi; oherwydd offrymau trwy d�n yr ARGLWYDD, Duw Israel, yw eu hetifeddiaeth hwy, fel y dywedodd ef wrthynt.
15ויתן משה למטה בני ראובן למשפחתם׃
15 Yr oedd Moses wedi rhoi etifeddiaeth i lwyth Reuben yn �l eu teuluoedd.
16ויהי להם הגבול מערוער אשר על שפת נחל ארנון והעיר אשר בתוך הנחל וכל המישר על מידבא׃
16 Yr oedd eu tiriogaeth yn ymestyn o Aroer sydd ar ymyl nant Arnon, ac o'r ddinas sydd yng nghanol y dyffryn, gyda'r holl wastadedd hyd at Medeba;
17חשבון וכל עריה אשר במישר דיבון ובמות בעל ובית בעל מעון׃
17 yr oedd yn cynnwys Hesbon a'i holl drefi ar y gwastadedd, Dibon, Bamoth-baal, Beth-baal-meon,
18ויהצה וקדמת ומפעת׃
18 Jahas, Cedemoth, Meffaath,
19וקריתים ושבמה וצרת השחר בהר העמק׃
19 Ciriathaim, Sibma, Sereth-sahar ar fynydd y glyn,
20ובית פעור ואשדות הפסגה ובית הישמות׃
20 Beth-peor, llethrau Pisga a Beth-jesimoth,
21וכל ערי המישר וכל ממלכות סיחון מלך האמרי אשר מלך בחשבון אשר הכה משה אתו ואת נשיאי מדין את אוי ואת רקם ואת צור ואת חור ואת רבע נסיכי סיחון ישבי הארץ׃
21 sef holl drefi'r gwastadedd a holl deyrnas Sihon brenin yr Amoriaid, a oedd yn teyrnasu yn Hesbon ond a laddwyd gan Moses ynghyd � thywysogion Midian, Efi, Recem, Sur, Hur a Reba, pendefigion Sihon oedd yn byw yn y wlad.
22ואת בלעם בן בעור הקוסם הרגו בני ישראל בחרב אל חלליהם׃
22 Yr oedd Balaam fab Beor, y dewin, yn un o'r rhai a laddwyd gan yr Israeliaid �'r cleddyf.
23ויהי גבול בני ראובן הירדן וגבול זאת נחלת בני ראובן למשפחתם הערים וחצריהן׃
23 Yr Iorddonen a'i goror oedd terfyn llwyth Reuben; a dyna'u hetifeddiaeth yn �l eu teuluoedd, gyda'u trefi a'u pentrefi.
24ויתן משה למטה גד לבני גד למשפחתם׃
24 Rhoddodd Moses etifeddiaeth i lwyth Gad yn �l eu teuluoedd.
25ויהי להם הגבול יעזר וכל ערי הגלעד וחצי ארץ בני עמון עד ערוער אשר על פני רבה׃
25 Eu tiriogaeth hwy oedd Jaser a holl drefi Gilead a hanner tir yr Ammoniaid hyd at Aroer sydd o flaen Rabba;
26ומחשבון עד רמת המצפה ובטנים וממחנים עד גבול לדבר׃
26 yna o Hesbon at Ramath-mispa a Betonim, ac o Mahanaim at derfyn Lo-debar;
27ובעמק בית הרם ובית נמרה וסכות וצפון יתר ממלכות סיחון מלך חשבון הירדן וגבל עד קצה ים כנרת עבר הירדן מזרחה׃
27 yna, yn y dyffryn, Beth-haram, Beth-nimra, Succoth a Saffon, gweddill teyrnas Sihon brenin Hesbon; yr Iorddonen oedd y terfyn at gwr isaf M�r Cinnereth i'r dwyrain o'r Iorddonen.
28זאת נחלת בני גד למשפחתם הערים וחצריהם׃
28 Dyma etifeddiaeth Gad yn �l eu teuluoedd, gyda'u trefi a'u pentrefi.
29ויתן משה לחצי שבט מנשה ויהי לחצי מטה בני מנשה למשפחותם׃
29 Rhoddodd Moses etifeddiaeth i hanner llwyth Manasse yn �l eu teuluoeoedd.
30ויהי גבולם ממחנים כל הבשן כל ממלכות עוג מלך הבשן וכל חות יאיר אשר בבשן ששים עיר׃
30 Yr oedd eu tiriogaeth yn ymestyn o Mahanaim ac yn cynnwys Basan i gyd, holl deyrnas Og brenin Basan, a'r cwbl o Hafoth-jair yn Basan, sef trigain tref.
31וחצי הגלעד ועשתרות ואדרעי ערי ממלכות עוג בבשן לבני מכיר בן מנשה לחצי בני מכיר למשפחותם׃
31 Aeth hanner Gilead ynghyd ag Astaroth ac Edrei, dinasoedd brenhinol Og yn Basan, i feibion Machir fab Manasse, sef hanner llwyth Machir, yn �l eu teuluoedd.
32אלה אשר נחל משה בערבות מואב מעבר לירדן יריחו מזרחה׃
32 Dyma'r tiroedd a rannodd Moses yng ngwastadeddau Moab y tu hwnt i'r Iorddonen, i'r dwyrain o Jericho.
33ולשבט הלוי לא נתן משה נחלה יהוה אלהי ישראל הוא נחלתם כאשר דבר להם׃
33 Ond ni roddodd Moses etifeddiaeth i lwyth Lefi. Yr ARGLWYDD, Duw Israel, oedd eu hetifeddiaeth hwy, fel y dywedodd ef wrthynt.