Hebrew: Modern

Welsh

Joshua

14

1ואלה אשר נחלו בני ישראל בארץ כנען אשר נחלו אותם אלעזר הכהן ויהושע בן נון וראשי אבות המטות לבני ישראל׃
1 Dyma'r tiroedd a gafodd yr Israeliaid yn etifeddiaeth yng ngwlad Canaan oddi ar law yr offeiriad Eleasar, a Josua fab Nun, a'r pennau-teuluoedd ymysg llwythau'r Israeliaid.
2בגורל נחלתם כאשר צוה יהוה ביד משה לתשעת המטות וחצי המטה׃
2 Trwy fwrw coelbren y rhoddwyd eu hetifeddiaeth i'r naw llwyth a hanner, fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD drwy Moses;
3כי נתן משה נחלת שני המטות וחצי המטה מעבר לירדן וללוים לא נתן נחלה בתוכם׃
3 oherwydd yr oedd Moses wedi rhoi eu hetifeddiaeth i'r ddau lwyth a hanner y tu hwnt i'r Iorddonen. Ond ni roddodd etifeddiaeth yn eu plith i'r Lefiaid.
4כי היו בני יוסף שני מטות מנשה ואפרים ולא נתנו חלק ללוים בארץ כי אם ערים לשבת ומגרשיהם למקניהם ולקנינם׃
4 Yr oedd disgynyddion Joseff yn ddau lwyth, Manasse ac Effraim. Ni roddwyd cyfran yn y tir i'r Lefiaid ac eithrio trefi i fyw ynddynt a phorfeydd ar gyfer eu gyrroedd a'u preiddiau.
5כאשר צוה יהוה את משה כן עשו בני ישראל ויחלקו את הארץ׃
5 Rhannodd yr Israeliaid y tir yn union fel yr oedd yr ARGLWYDD wedi gorchymyn i Moses.
6ויגשו בני יהודה אל יהושע בגלגל ויאמר אליו כלב בן יפנה הקנזי אתה ידעת את הדבר אשר דבר יהוה אל משה איש האלהים על אדותי ועל אדותיך בקדש ברנע׃
6 Daeth llwyth Jwda gerbron Josua yn Gilgal, a dywedodd Caleb fab Jeffunne'r Cenesiad wrtho, "Gwyddost yr hyn a ddywedodd yr ARGLWYDD wrth Moses gu373?r Duw amdanom ni'n dau yn Cades-barnea.
7בן ארבעים שנה אנכי בשלח משה עבד יהוה אתי מקדש ברנע לרגל את הארץ ואשב אתו דבר כאשר עם לבבי׃
7 Deugain oed oeddwn i pan anfonodd Moses gwas yr ARGLWYDD fi o Cades-barnea i ysb�o'r wlad. Deuthum ag adroddiad diragfarn yn �l iddo.
8ואחי אשר עלו עמי המסיו את לב העם ואנכי מלאתי אחרי יהוה אלהי׃
8 Er bod fy nghymdeithion wedi digalonni'r bobl, fe lwyr ddilynais i yr ARGLWYDD fy Nuw;
9וישבע משה ביום ההוא לאמר אם לא הארץ אשר דרכה רגלך בה לך תהיה לנחלה ולבניך עד עולם כי מלאת אחרי יהוה אלהי׃
9 ac fe addawodd Moses imi y diwrnod hwnnw: 'Yn sicr, etifeddiaeth i ti ac i'th blant am byth fydd y tir y bydd dy droed yn sangu arno, am iti lwyr ddilyn yr ARGLWYDD, fy Nuw.'
10ועתה הנה החיה יהוה אותי כאשר דבר זה ארבעים וחמש שנה מאז דבר יהוה את הדבר הזה אל משה אשר הלך ישראל במדבר ועתה הנה אנכי היום בן חמש ושמונים שנה׃
10 Yn awr, dyma'r ARGLWYDD wedi f'arbed, fel yr addawodd, dros y pum mlynedd a deugain hyn er pan lefarodd yr ARGLWYDD yr addewid hon wrth Moses, pan oedd Israel yn rhodio'r anialwch; a dyma fi heddiw yn bump a phedwar ugain oed.
11עודני היום חזק כאשר ביום שלח אותי משה ככחי אז וככחי עתה למלחמה ולצאת ולבוא׃
11 Yr wyf mor gryf heddiw ag ar y diwrnod yr anfonodd Moses fi; y mae fy nerth cystal yn awr �'r adeg honno i ryfela ac i arwain byddin.
12ועתה תנה לי את ההר הזה אשר דבר יהוה ביום ההוא כי אתה שמעת ביום ההוא כי ענקים שם וערים גדלות בצרות אולי יהוה אותי והורשתים כאשר דבר יהוה׃
12 Felly rho imi'n awr y mynydd-dir hwn a addawodd yr ARGLWYDD y pryd hwnnw; oherwydd fe glywaist ti dy hun yr adeg honno fod Anacim yno, a bod eu dinasoedd yn rhai mawr a chaerog; ond odid na fydd yr ARGLWYDD gyda mi, ac fe'u gyrraf hwy allan, fel yr addawodd yr ARGLWYDD."
13ויברכהו יהושע ויתן את חברון לכלב בן יפנה לנחלה׃
13 Bendithiodd Josua ef a rhoddodd Hebron yn etifeddiaeth i Caleb fab Jeffunne.
14על כן היתה חברון לכלב בן יפנה הקנזי לנחלה עד היום הזה יען אשר מלא אחרי יהוה אלהי ישראל׃
14 Dyna pam y mae Hebron yn feddiant i Caleb fab Jeffunne'r Cenesiad hyd heddiw, am, iddo lwyr ddilyn yr ARGLWYDD, Duw Israel.
15ושם חברון לפנים קרית ארבע האדם הגדול בענקים הוא והארץ שקטה ממלחמה׃
15 Enw Hebron gynt oedd Ciriath-arba, ar �l Arba, prif ddyn yr Anacim. A chafodd y wlad lonydd rhag rhyfel.