Hebrew: Modern

Welsh

Proverbs

11

1מאזני מרמה תועבת יהוה ואבן שלמה רצונו׃
1 Y mae cloriannau twyllodrus yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, ond pwysau cywir wrth ei fodd.
2בא זדון ויבא קלון ואת צנועים חכמה׃
2 Yn dilyn balchder fe ddaw amarch, ond gyda'r rhai gwylaidd y mae doethineb.
3תמת ישרים תנחם וסלף בוגדים ושדם׃
3 Y mae eu gonestrwydd yn arwain yr uniawn, ond eu gwyrni eu hunain yn difa'r twyllwyr.
4לא יועיל הון ביום עברה וצדקה תציל ממות׃
4 Nid oes gwerth mewn cyfoeth yn nydd dicter, ond y mae cyfiawnder yn amddiffyn rhag angau.
5צדקת תמים תישר דרכו וברשעתו יפל רשע׃
5 Y mae cyfiawnder y cywir yn ei gadw ar y ffordd union, ond cwympa'r drygionus trwy ei ddrygioni.
6צדקת ישרים תצילם ובהות בגדים ילכדו׃
6 Y mae eu cyfiawnder yn gwaredu'r uniawn, ond eu trachwant yn fagl i'r twyllwyr.
7במות אדם רשע תאבד תקוה ותוחלת אונים אבדה׃
7 Pan fydd farw'r drygionus, derfydd gobaith, a daw terfyn ar hyder mewn cyfoeth.
8צדיק מצרה נחלץ ויבא רשע תחתיו׃
8 Gwaredir y cyfiawn rhag adfyd, ond fe �'r drygionus dros ei ben iddo.
9בפה חנף ישחת רעהו ובדעת צדיקים יחלצו׃
9 Y mae'r annuwiol yn dinistrio'i gymydog �'i eiriau, ond gwaredir y cyfiawn trwy ddeall.
10בטוב צדיקים תעלץ קריה ובאבד רשעים רנה׃
10 Ymhyfryda dinas yn llwyddiant y cyfiawn, a cheir gorfoledd pan ddinistrir y drygionus.
11בברכת ישרים תרום קרת ובפי רשעים תהרס׃
11 Dyrchefir dinas gan fendith yr uniawn, ond dinistrir hi trwy eiriau'r drygionus.
12בז לרעהו חסר לב ואיש תבונות יחריש׃
12 Y mae'r disynnwyr yn dilorni ei gymydog, ond cadw'n dawel a wna'r deallus.
13הולך רכיל מגלה סוד ונאמן רוח מכסה דבר׃
13 Y mae'r straegar yn bradychu cyfrinach, ond y mae'r teyrngar yn ei chadw.
14באין תחבלות יפל עם ותשועה ברב יועץ׃
14 Heb ei chyfarwyddo, methu a wna cenedl, ond y mae diogelwch mewn llawer o gynghorwyr.
15רע ירוע כי ערב זר ושנא תקעים בוטח׃
15 Daw helbul o fynd yn feichiau dros ddieithryn, ond y mae'r un sy'n cas�u mechn�aeth yn ddiogel.
16אשת חן תתמך כבוד ועריצים יתמכו עשר׃
16 Y mae gwraig raslon yn cael clod, ond pobl ddidostur sy'n ennill cyfoeth.
17גמל נפשו איש חסד ועכר שארו אכזרי׃
17 Dwyn elw iddo'i hun y mae'r trugarog, ond ei niweidio'i hun y mae'r creulon.
18רשע עשה פעלת שקר וזרע צדקה שכר אמת׃
18 Gwneud elw twyllodrus y mae'r drygionus, ond caiff yr un sy'n hau cyfiawnder gyflog teg.
19כן צדקה לחיים ומרדף רעה למותו׃
19 I'r un sy'n glynu wrth gyfiawnder daw bywyd, ond i'r sawl sy'n dilyn drygioni marwolaeth.
20תועבת יהוה עקשי לב ורצונו תמימי דרך׃
20 Y mae'r rhai gwrthnysig yn ffiaidd gan yr ARGLWYDD, ond y mae'r rhai cywir wrth ei fodd.
21יד ליד לא ינקה רע וזרע צדיקים נמלט׃
21 Y mae'n sicr na chaiff un drwg osgoi cosb, ond caiff plant y cyfiawn fynd yn rhydd.
22נזם זהב באף חזיר אשה יפה וסרת טעם׃
22 Fel modrwy aur yn nhrwyn hwch, felly y mae gwraig brydferth heb synnwyr.
23תאות צדיקים אך טוב תקות רשעים עברה׃
23 Dymuno'r hyn sydd dda a wna'r cyfiawn, ond diflanna gobaith y drygionus.
24יש מפזר ונוסף עוד וחושך מישר אך למחסור׃
24 Y mae un yn hael, ac eto'n ennill cyfoeth, ond arall yn grintach, a phob amser mewn angen.
25נפש ברכה תדשן ומרוה גם הוא יורא׃
25 Llwydda'r un a wasgar fendithion, a diwellir yr un a ddiwalla eraill.
26מנע בר יקבהו לאום וברכה לראש משביר׃
26 Y mae pobl yn melltithio'r un sy'n cronni u375?d, ond yn bendithio'r sawl sy'n ei werthu.
27שחר טוב יבקש רצון ודרש רעה תבואנו׃
27 Y mae'r un sy'n ceisio daioni yn ennill ffafr, ond syrth drygioni ar y sawl sy'n ei ddilyn.
28בוטח בעשרו הוא יפל וכעלה צדיקים יפרחו׃
28 Cwympa'r un sy'n ymddiried yn ei gyfoeth, ond ffynna'r cyfiawn fel deilen werdd.
29עוכר ביתו ינחל רוח ועבד אויל לחכם לב׃
29 Y mae'r un sy'n peri helbul i'w deulu'n etifeddu'r gwynt, a bydd y ff�l yn was i'r doeth.
30פרי צדיק עץ חיים ולקח נפשות חכם׃
30 Ffrwyth cyfiawnder yw pren y bywyd, ond y mae trais yn difa bywydau.
31הן צדיק בארץ ישלם אף כי רשע וחוטא׃
31 Os caiff y cyfiawn ei dalu ar y ddaear, pa faint mwy y drygionus a'r pechadur?