1בני אם תקח אמרי ומצותי תצפן אתך׃
1 Fy mab, os derbynni fy ngeiriau, a thrysori fy ngorchmynion,
2להקשיב לחכמה אזנך תטה לבך לתבונה׃
2 a gwrando'n astud ar ddoethineb, a rhoi dy feddwl ar ddeall;
3כי אם לבינה תקרא לתבונה תתן קולך׃
3 os gelwi am ddeall, a chodi dy lais am wybodaeth,
4אם תבקשנה ככסף וכמטמונים תחפשנה׃
4 a chwilio amdani fel am arian, a chloddio amdani fel am drysor �
5אז תבין יראת יהוה ודעת אלהים תמצא׃
5 yna cei ddeall ofn yr ARGLWYDD, a chael gwybodaeth o Dduw.
6כי יהוה יתן חכמה מפיו דעת ותבונה׃
6 Oherwydd yr ARGLWYDD sy'n rhoi doethineb, ac o'i enau ef y daw gwybodaeth a deall.
7וצפן לישרים תושיה מגן להלכי תם׃
7 Y mae'n trysori craffter i'r uniawn; y mae'n darian i'r rhai a rodia'n gywir.
8לנצר ארחות משפט ודרך חסידו ישמר׃
8 Y mae'n diogelu llwybrau cyfiawnder, ac yn gwarchod ffordd ei ffyddloniaid.
9אז תבין צדק ומשפט ומישרים כל מעגל טוב׃
9 Yna byddi'n deall cyfiawnder a barn, ac uniondeb a phob ffordd dda;
10כי תבוא חכמה בלבך ודעת לנפשך ינעם׃
10 oherwydd bydd doethineb yn dod i'th feddwl, a deall yn rhoi pleser iti.
11מזמה תשמר עליך תבונה תנצרכה׃
11 Bydd pwyll yn dy amddiffyn, a deall yn dy warchod,
12להצילך מדרך רע מאיש מדבר תהפכות׃
12 ac yn dy gadw rhag ffordd drygioni, a rhag y rhai sy'n siarad yn dwyllodrus �
13העזבים ארחות ישר ללכת בדרכי חשך׃
13 y rhai sy'n gadael y ffordd iawn i rodio yn llwybrau tywyllwch,
14השמחים לעשות רע יגילו בתהפכות רע׃
14 sy'n cael pleser mewn gwneud drwg a mwynhad mewn twyll,
15אשר ארחתיהם עקשים ונלוזים במעגלותם׃
15 y rhai y mae eu ffordd yn gam a'u llwybrau'n droellog.
16להצילך מאשה זרה מנכריה אמריה החליקה׃
16 Fe'th geidw oddi wrth y wraig ddieithr, a rhag y ddynes estron a'i geiriau dengar,
17העזבת אלוף נעוריה ואת ברית אלהיה שכחה׃
17 sydd wedi gadael cymar ei hieuenctid, ac wedi anghofio cyfamod ei Duw.
18כי שחה אל מות ביתה ואל רפאים מעגלתיה׃
18 Oherwydd y mae ei thu375? yn gwyro at angau, a'i llwybrau at y cysgodion.
19כל באיה לא ישובון ולא ישיגו ארחות חיים׃
19 Ni ddaw neb sy'n mynd ati yn ei �l, ac ni chaiff ailafael ar lwybrau bywyd.
20למען תלך בדרך טובים וארחות צדיקים תשמר׃
20 Felly gofala di rodio yn ffyrdd y da, a chadw at lwybrau'r cyfiawn.
21כי ישרים ישכנו ארץ ותמימים יותרו בה׃
21 Oherwydd y rhai cyfiawn a drig yn y tir, a'r rhai cywir a gaiff aros ynddo;
22ורשעים מארץ יכרתו ובוגדים יסחו ממנה׃
22 ond torrir y rhai drwg o'r tir, a diwreiddir y twyllwyr ohono.