1בני תורתי אל תשכח ומצותי יצר לבך׃
1 Fy mab, paid ag anghofio fy nghyfarwyddyd; cadw fy ngorchmynion yn dy gof.
2כי ארך ימים ושנות חיים ושלום יוסיפו לך׃
2 Oherwydd ychwanegant at nifer dy ddyddiau a rhoi blynyddoedd o fywyd a llwyddiant.
3חסד ואמת אל יעזבך קשרם על גרגרותיך כתבם על לוח לבך׃
3 Paid � gollwng gafael ar deyrngarwch a ffyddlondeb; rhwym hwy am dy wddf, ysgrifenna hwy ar lech dy galon;
4ומצא חן ושכל טוב בעיני אלהים ואדם׃
4 a byddi'n ennill ffafr ac enw da yng ngolwg Duw a dynion.
5בטח אל יהוה בכל לבך ואל בינתך אל תשען׃
5 Ymddiried yn llwyr yn yr ARGLWYDD, a phaid � dibynnu ar dy ddeall dy hun.
6בכל דרכיך דעהו והוא יישר ארחתיך׃
6 Cydnabydda ef yn dy holl ffyrdd, bydd ef yn sicr o gadw dy lwybrau'n union.
7אל תהי חכם בעיניך ירא את יהוה וסור מרע׃
7 Paid � bod yn ddoeth yn dy olwg dy hun; ofna'r ARGLWYDD, a chilia oddi wrth ddrwg.
8רפאות תהי לשרך ושקוי לעצמותיך׃
8 Bydd hyn yn iechyd i'th gorff, ac yn faeth i'th esgyrn.
9כבד את יהוה מהונך ומראשית כל תבואתך׃
9 Anrhydedda'r ARGLWYDD �'th gyfoeth, ac � blaenffrwyth dy holl gynnyrch.
10וימלאו אסמיך שבע ותירוש יקביך יפרצו׃
10 Yna bydd dy ysguboriau'n orlawn, a'th gafnau'n gorlifo gan win.
11מוסר יהוה בני אל תמאס ואל תקץ בתוכחתו׃
11 Fy mab, paid � diystyru disgyblaeth yr ARGLWYDD, a phaid � digio wrth ei gerydd;
12כי את אשר יאהב יהוה יוכיח וכאב את בן ירצה׃
12 oherwydd ceryddu'r un a g�r y mae'r ARGLWYDD, fel tad sy'n hoff o'i blentyn.
13אשרי אדם מצא חכמה ואדם יפיק תבונה׃
13 Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb, a'r un sy'n berchen deall.
14כי טוב סחרה מסחר כסף ומחרוץ תבואתה׃
14 Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian, a'i chynnyrch yn well nag aur.
15יקרה היא מפניים וכל חפציך לא ישוו בה׃
15 Y mae'n fwy gwerthfawr na gemau, ac nid yw dim a ddymuni yn debyg iddi.
16ארך ימים בימינה בשמאולה עשר וכבוד׃
16 Yn ei llaw dde y mae hir oes, a chyfoeth ac anrhydedd yn ei llaw chwith.
17דרכיה דרכי נעם וכל נתיבותיה שלום׃
17 Ffyrdd hyfryd yw ei ffyrdd, a heddwch sydd ar ei holl lwybrau.
18עץ חיים היא למחזיקים בה ותמכיה מאשר׃
18 Y mae'n bren bywyd i'r neb a gydia ynddi, a dedwydd yw'r rhai sy'n glynu wrthi.
19יהוה בחכמה יסד ארץ כונן שמים בתבונה׃
19 Trwy ddoethineb y sylfaenodd yr ARGLWYDD y ddaear, ac � deall y sicrhaodd y nefoedd;
20בדעתו תהומות נבקעו ושחקים ירעפו טל׃
20 trwy ei ddeall y ffrydiodd y dyfnderau, ac y defnynna'r cymylau wlith.
21בני אל ילזו מעיניך נצר תשיה ומזמה׃
21 Fy mab, dal d'afael ar graffter a phwyll; paid �'u gollwng o'th olwg;
22ויהיו חיים לנפשך וחן לגרגרתיך׃
22 byddant yn iechyd i'th enaid, ac yn addurn am dy wddf.
23אז תלך לבטח דרכך ורגלך לא תגוף׃
23 Yna cei gerdded ymlaen heb bryder, ac ni fagla dy droed.
24אם תשכב לא תפחד ושכבת וערבה שנתך׃
24 Pan eisteddi, ni fyddi'n ofni, a phan orweddi, bydd dy gwsg yn felys.
25אל תירא מפחד פתאם ומשאת רשעים כי תבא׃
25 Paid ag ofni rhag unrhyw ddychryn disymwth, na dinistr y drygionus pan ddaw;
26כי יהוה יהיה בכסלך ושמר רגלך מלכד׃
26 oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn hyder iti, ac yn cadw dy droed rhag y fagl.
27אל תמנע טוב מבעליו בהיות לאל ידיך לעשות׃
27 Paid � gwrthod cymwynas i'r sawl sy'n ei haeddu, os yw yn dy allu i'w gwneud.
28אל תאמר לרעיך לך ושוב ומחר אתן ויש אתך׃
28 Paid � dweud wrth dy gymydog, "Tyrd yn d'�l eto, ac fe'i rhoddaf iti yfory", er ei fod gennyt yn awr.
29אל תחרש על רעך רעה והוא יושב לבטח אתך׃
29 Paid � chynllunio drwg yn erbyn dy gymydog, ac yntau'n ymddiried ynot.
30אל תרוב עם אדם חנם אם לא גמלך רעה׃
30 Paid � chweryla'n ddiachos ag unrhyw un, ac yntau heb wneud cam � thi.
31אל תקנא באיש חמס ואל תבחר בכל דרכיו׃
31 Paid � chenfigennu wrth ormeswr, na dewis yr un o'i ffyrdd.
32כי תועבת יהוה נלוז ואת ישרים סודו׃
32 Oherwydd y mae'r ARGLWYDD yn ffieiddio'r cyfeiliornus, ond yn rhannu ei gyfrinach �'r uniawn.
33מארת יהוה בבית רשע ונוה צדיקים יברך׃
33 Y mae melltith yr ARGLWYDD ar du375?'r drygionus, ond y mae'n bendithio trigfa'r cyfiawn.
34אם ללצים הוא יליץ ולעניים יתן חן׃
34 Er iddo ddirmygu'r dirmygwyr, eto fe rydd ffafr i'r gostyngedig.
35כבוד חכמים ינחלו וכסילים מרים קלון׃
35 Etifedda'r doeth anrhydedd, ond y ffyliaid bentwr o warth.