Hebrew: Modern

Welsh

Proverbs

21

1פלגי מים לב מלך ביד יהוה על כל אשר יחפץ יטנו׃
1 Y mae calon brenin yn llaw'r ARGLWYDD fel ffrwd o ddu373?r; fe'i try i ble bynnag y dymuna.
2כל דרך איש ישר בעיניו ותכן לבות יהוה׃
2 Y mae ffyrdd pob un i gyd yn uniawn yn ei olwg ei hun, ond y mae'r ARGLWYDD yn cloriannu'r galon.
3עשה צדקה ומשפט נבחר ליהוה מזבח׃
3 Y mae gwneud cyfiawnder a barn yn fwy derbyniol gan yr ARGLWYDD nag aberth.
4רום עינים ורחב לב נר רשעים חטאת׃
4 Llygaid balch a chalon ymffrostgar, dyma nodau'r drygionus, ac y maent yn bechod.
5מחשבות חרוץ אך למותר וכל אץ אך למחסור׃
5 Y mae cynlluniau'r diwyd yn sicr o arwain i ddigonedd, ond daw angen ar bob un sydd mewn brys.
6פעל אוצרות בלשון שקר הבל נדף מבקשי מות׃
6 Y mae trysorau wedi eu hennill trwy gelwydd fel tarth yn diflannu neu fagl marwolaeth.
7שד רשעים יגורם כי מאנו לעשות משפט׃
7 Rhwydir y rhai drygionus gan eu trais, am iddynt wrthod gwneud yr hyn sydd uniawn.
8הפכפך דרך איש וזר וזך ישר פעלו׃
8 Troellog yw ffordd y troseddwr, ond uniawn yw gweithred y didwyll.
9טוב לשבת על פנת גג מאשת מדונים ובית חבר׃
9 Gwell yw byw mewn congl ar ben tu375? na rhannu cartref gyda gwraig gecrus.
10נפש רשע אותה רע לא יחן בעיניו רעהו׃
10 Y mae'r drygionus yn awchu am wneud drwg; nid yw'n edrych yn drugarog ar ei gymydog.
11בענש לץ יחכם פתי ובהשכיל לחכם יקח דעת׃
11 Pan gosbir gwatwarwr, daw'r gwirion yn ddoeth; ond pan ddysgir gwers i'r doeth, daw ef ei hun i ddeall.
12משכיל צדיק לבית רשע מסלף רשעים לרע׃
12 Y mae'r Un Cyfiawn yn sylwi ar du375?'r drygionus; y mae'n bwrw'r rhai drwg i ddinistr.
13אטם אזנו מזעקת דל גם הוא יקרא ולא יענה׃
13 Os bydd rhywun yn fyddar i gri'r tlawd, ni chaiff ei ateb pan fydd yntau'n galw.
14מתן בסתר יכפה אף ושחד בחק חמה עזה׃
14 Y mae rhodd ddirgel yn lliniaru dig, a chil-dwrn dan glogyn yn tawelu llid mawr.
15שמחה לצדיק עשות משפט ומחתה לפעלי און׃
15 Caiff y cyfiawn lawenydd wrth wneud cyfiawnder, ond daw dinistr ar y rhai sy'n gwneud drwg.
16אדם תועה מדרך השכל בקהל רפאים ינוח׃
16 Bydd rhywun sy'n troi oddi ar ffordd deall yn gorffwys yng nghwmni'r meirw.
17איש מחסור אהב שמחה אהב יין ושמן לא יעשיר׃
17 Mewn angen y bydd y sawl sy'n caru pleser, ac ni ddaw'r sawl sy'n hoffi gwin ac olew yn gyfoethog.
18כפר לצדיק רשע ותחת ישרים בוגד׃
18 Y mae'r drygionus yn bridwerth dros y cyfiawn, a'r twyllwr dros y rhai uniawn.
19טוב שבת בארץ מדבר מאשת מדונים וכעס׃
19 Gwell byw mewn anialwch na chyda gwraig gecrus a dicllon.
20אוצר נחמד ושמן בנוה חכם וכסיל אדם יבלענו׃
20 Yn nhu375?'r doeth y mae trysor dymunol ac olew, ond y mae'r ff�l yn eu difa.
21רדף צדקה וחסד ימצא חיים צדקה וכבוד׃
21 Y mae'r sawl sy'n dilyn cyfiawnder a theyrngarwch yn cael bywyd llwyddiannus ac anrhydedd.
22עיר גברים עלה חכם וירד עז מבטחה׃
22 Y mae'r doeth yn gallu mynd i ddinas gadarn a bwrw i lawr y gaer yr ymddiriedir ynddi.
23שמר פיו ולשונו שמר מצרות נפשו׃
23 Y sawl sy'n gwylio ei enau a'i dafod, fe'i ceidw ei hun rhag gofidiau.
24זד יהיר לץ שמו עושה בעברת זדון׃
24 Y mae'r balch yn ffroenuchel; gwatwarwr yw ei enw, gweithreda yn gwbl drahaus.
25תאות עצל תמיתנו כי מאנו ידיו לעשות׃
25 Y mae blys y diog yn ei ladd, am fod ei ddwylo'n gwrthod gweithio.
26כל היום התאוה תאוה וצדיק יתן ולא יחשך׃
26 Trachwantu y mae'r annuwiol bob amser, ond y mae'r cyfiawn yn rhoi heb arbed.
27זבח רשעים תועבה אף כי בזמה יביאנו׃
27 Ffiaidd yw aberth y drygionus, yn enwedig pan offrymir ef mewn dichell.
28עד כזבים יאבד ואיש שומע לנצח ידבר׃
28 Difethir y tyst celwyddog, ond y mae'r tyst cywir yn cael llefaru.
29העז איש רשע בפניו וישר הוא יכין דרכיו׃
29 Y mae'r drygionus yn caledu ei wyneb, ond yr uniawn yn trefnu ei ffyrdd.
30אין חכמה ואין תבונה ואין עצה לנגד יהוה׃
30 Nid yw doethineb na deall na chyngor yn ddim o flaen yr ARGLWYDD.
31סוס מוכן ליום מלחמה וליהוה התשועה׃
31 Er paratoi march ar gyfer dydd brwydr, eto eiddo'r ARGLWYDD yw'r fuddugoliaeth.