Hebrew: Modern

Welsh

Proverbs

22

1נבחר שם מעשר רב מכסף ומזהב חן טוב׃
1 Mwy dymunol yw enw da na chyfoeth lawer, a gwell yw parch nag arian ac aur.
2עשיר ורש נפגשו עשה כלם יהוה׃
2 Y mae un peth yn gyffredin i gyfoethog a thlawd: yr ARGLWYDD a'u creodd ill dau.
3ערום ראה רעה ויסתר ופתיים עברו ונענשו׃
3 Y mae'r craff yn gweld perygl ac yn ei osgoi, ond y gwirion yn mynd rhagddo ac yn talu am hynny.
4עקב ענוה יראת יהוה עשר וכבוד וחיים׃
4 Gwobr gostyngeiddrwydd ac ofn yr ARGLWYDD yw cyfoeth, anrhydedd a bywyd.
5צנים פחים בדרך עקש שומר נפשו ירחק מהם׃
5 Y mae drain a maglau ar ffordd y gwrthnysig, ond y mae'r un gwyliadwrus yn cadw draw oddi wrthynt.
6חנך לנער על פי דרכו גם כי יזקין לא יסור ממנה׃
6 Hyffordda blentyn ar ddechrau ei daith, ac ni thry oddi wrthi pan heneiddia.
7עשיר ברשים ימשול ועבד לוה לאיש מלוה׃
7 Y mae'r cyfoethog yn rheoli'r tlawd, ac y mae'r benthyciwr yn was i'r echwynnwr.
8זורע עולה יקצור און ושבט עברתו יכלה׃
8 Y mae'r un sy'n hau anghyfiawnder yn medi gofid, a bydd gwialen ei ymffrost yn methu.
9טוב עין הוא יברך כי נתן מלחמו לדל׃
9 Bendithir yr un hael am ei fod yn rhannu ei fara i'r tlawd.
10גרש לץ ויצא מדון וישבת דין וקלון׃
10 Bwrw allan y gwatwarwr, a cheir terfyn ar ymryson, a diwedd ar ddadlau a gwawd.
11אהב טהור לב חן שפתיו רעהו מלך׃
11 Yr un sy'n hoffi purdeb meddwl a geiriau grasol, y mae ef yn gyfaill i frenin.
12עיני יהוה נצרו דעת ויסלף דברי בגד׃
12 Y mae llygaid yr ARGLWYDD yn gwarchod deall, ond y mae ef yn dymchwel geiriau twyllwr.
13אמר עצל ארי בחוץ בתוך רחבות ארצח׃
13 Dywed y diog, "Y mae llew y tu allan; fe'm lleddir yn y stryd."
14שוחה עמקה פי זרות זעום יהוה יפול שם׃
14 Y mae genau'r wraig ddieithr fel pwll dwfn; y mae'r un a ddigiodd yr ARGLWYDD yn syrthio iddo.
15אולת קשורה בלב נער שבט מוסר ירחיקנה ממנו׃
15 Y mae ffolineb ynghlwm wrth feddwl plentyn, ond y mae gwialen disgyblaeth yn ei yrru oddi wrtho.
16עשק דל להרבות לו נתן לעשיר אך למחסור׃
16 Y sawl sy'n gorthrymu'r tlawd i geisio elw iddo'i hun, ac yn rhoi i'r cyfoethog, bydd hwnnw'n diweddu mewn angen.
17הט אזנך ושמע דברי חכמים ולבך תשית לדעתי׃
17 Rho sylw, a gwrando ar eiriau'r doethion, a gosod dy feddwl ar fy neall;
18כי נעים כי תשמרם בבטנך יכנו יחדו על שפתיך׃
18 oherwydd y mae'n werth iti eu cadw yn dy galon, ac iddynt oll gael eu sicrhau ar dy wefusau.
19להיות ביהוה מבטחך הודעתיך היום אף אתה׃
19 Er mwyn i ti roi dy hyder yn yr ARGLWYDD yr wyf yn eu dysgu iti heddiw � ie, i ti!
20הלא כתבתי לך שלשום במועצות ודעת׃
20 Onid wyf wedi ysgrifennu iti ddeg ar hugain o ddywediadau, yn llawn cyngor a deall,
21להודיעך קשט אמרי אמת להשיב אמרים אמת לשלחיך׃
21 i ddysgu iti wirionedd geiriau cywir, fel y gelli roi ateb cywir i'r rhai a'th anfonodd?
22אל תגזל דל כי דל הוא ואל תדכא עני בשער׃
22 Paid ag ysbeilio'r tlawd am ei fod yn dlawd, a phaid � sathru'r anghenus yn y porth;
23כי יהוה יריב ריבם וקבע את קבעיהם נפש׃
23 oherwydd bydd yr ARGLWYDD yn dadlau eu hachos, ac yn difetha'r rhai sy'n eu difetha hwy.
24אל תתרע את בעל אף ואת איש חמות לא תבוא׃
24 Paid � chyfeillachu � neb a chanddo dymer ddrwg, nac aros yng nghwmni'r dicllon,
25פן תאלף ארחתו ולקחת מוקש לנפשך׃
25 rhag iti ddysgu ei ffordd, a'th gael dy hun mewn magl.
26אל תהי בתקעי כף בערבים משאות׃
26 Paid � rhoi gwystl, a mynd yn feichiau am ddyledion;
27אם אין לך לשלם למה יקח משכבך מתחתיך׃
27 os na fydd gennyt ddim i dalu, oni chymerir dy wely oddi arnat?
28אל תסג גבול עולם אשר עשו אבותיך׃
28 Paid � symud yr hen derfynau a osodwyd gan dy hynafiaid.
29חזית איש מהיר במלאכתו לפני מלכים יתיצב בל יתיצב לפני חשכים׃
29 Gwelaist un medrus yn ei waith; bydd yn gwasanaethu brenhinoedd, ond ni fydd yn gwasanaethu pobl ddibwys.