Hebrew: Modern

Welsh

Proverbs

28

1נסו ואין רדף רשע וצדיקים ככפיר יבטח׃
1 Y mae'r drygionus yn ffoi heb i neb ei erlid, ond fe saif y cyfiawn yn gadarn fel llew.
2בפשע ארץ רבים שריה ובאדם מבין ידע כן יאריך׃
2 Pan fydd gwlad mewn gwrthryfel bydd nifer o arweinwyr, ond trwy bobl synhwyrol a deallus y sefydlir trefn.
3גבר רש ועשק דלים מטר סחף ואין לחם׃
3 Y mae un tlawd yn gorthrymu tlodion, fel glaw yn curo cnwd heb adael cynnyrch.
4עזבי תורה יהללו רשע ושמרי תורה יתגרו בם׃
4 Y mae'r rhai sy'n cefnu ar y gyfraith yn canmol y drygionus, ond y mae'r rhai sy'n cadw'r gyfraith yn ymladd yn eu herbyn.
5אנשי רע לא יבינו משפט ומבקשי יהוה יבינו כל׃
5 Nid yw pobl ddrwg yn deall beth yw cyfiawnder, ond y mae'r rhai sy'n ceisio'r ARGLWYDD yn deall y cyfan.
6טוב רש הולך בתמו מעקש דרכים והוא עשיר׃
6 Y mae'n well bod yn dlawd, a rhodio'n gywir, na bod yn gyfoethog ac yn droellog ei ffyrdd.
7נוצר תורה בן מבין ורעה זוללים יכלים אביו׃
7 Y mae plentyn deallus yn cadw'r gyfraith, ond y mae'r un sy'n cyfeillachu �'r glwth yn dwyn anfri ar ei rieni.
8מרבה הונו בנשך ובתרבית לחונן דלים יקבצנו׃
8 Y mae'r un sy'n cynyddu ei gyfoeth trwy log ac usuriaeth yn ei gasglu i'r un sy'n garedig wrth y tlawd.
9מסיר אזנו משמע תורה גם תפלתו תועבה׃
9 Pwy bynnag sy'n gwrthod gwrando ar y gyfraith, bydd ei weddi ef yn ffieidd-dra.
10משגה ישרים בדרך רע בשחותו הוא יפול ותמימים ינחלו טוב׃
10 Bydd yr un sy'n camarwain yr uniawn i ffordd ddrwg yn syrthio ei hun i'r pwll a wnaeth; ond caiff y cywir etifeddiaeth dda.
11חכם בעיניו איש עשיר ודל מבין יחקרנו׃
11 Y mae'r cyfoethog yn ddoeth yn ei olwg ei hun, ond y mae'r tlawd deallus yn gweld trwyddo.
12בעלץ צדיקים רבה תפארת ובקום רשעים יחפש אדם׃
12 Pan yw'r cyfiawn yn llywodraethu, ceir urddas mawr; ond pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio.
13מכסה פשעיו לא יצליח ומודה ועזב ירחם׃
13 Ni lwydda'r un sy'n cuddio'i droseddau, ond y mae'r un sy'n eu cyffesu ac yn cefnu arnynt yn cael trugaredd.
14אשרי אדם מפחד תמיד ומקשה לבו יפול ברעה׃
14 Gwyn ei fyd y sawl sy'n ofni'r ARGLWYDD yn wastad; ond y mae'r un sy'n caledu ei galon yn disgyn i ddinistr.
15ארי נהם ודב שוקק משל רשע על עם דל׃
15 Fel llew yn rhuo, neu arth yn rhuthro, felly y mae un drygionus yn llywodraethu pobl dlawd.
16נגיד חסר תבונות ורב מעשקות שנאי בצע יאריך ימים׃
16 Y mae llywodraethwr heb ddeall yn pentyrru trawster, ond y mae'r un sy'n cas�u llwgrwobr yn estyn ei ddyddiau.
17אדם עשק בדם נפש עד בור ינוס אל יתמכו בו׃
17 Y mae un sy'n euog o dywallt gwaed yn ffoi i gyfeiriad y pwll; peidied neb �'i atal.
18הולך תמים יושע ונעקש דרכים יפול באחת׃
18 Y mae'r un sy'n rhodio'n gywir yn ddiogel, ond y mae'r sawl sy'n droellog ei ffyrdd yn syrthio i'r pwll.
19עבד אדמתו ישבע לחם ומרדף רקים ישבע ריש׃
19 Y mae'r un sy'n trin ei dir yn cael digon o fwyd, ond y mae'r sawl sy'n dilyn oferedd yn llawn tlodi.
20איש אמונות רב ברכות ואץ להעשיר לא ינקה׃
20 Caiff y ffyddlon lawer o fendithion, ond ni fydd yr un sydd ar frys i ymgyfoethogi heb ei gosb.
21הכר פנים לא טוב ועל פת לחם יפשע גבר׃
21 Nid yw'n iawn dangos ffafr, ac eto fe drosedda rhywun am damaid o fara.
22נבהל להון איש רע עין ולא ידע כי חסר יבאנו׃
22 Y mae un cybyddlyd yn rhuthro am gyfoeth; nid yw'n ystyried y daw arno angen.
23מוכיח אדם אחרי חן ימצא ממחליק לשון׃
23 Caiff y sawl sy'n ceryddu fwy o barch yn y diwedd na'r un sy'n gwenieithio.
24גוזל אביו ואמו ואמר אין פשע חבר הוא לאיש משחית׃
24 Y mae'r un sy'n lladrata oddi ar ei dad neu ei fam, ac yn dweud nad yw'n drosedd, yn gymar i'r un sy'n dinistrio.
25רחב נפש יגרה מדון ובוטח על יהוה ידשן׃
25 Y mae'r trachwantus yn creu cynnen, ond y mae'r un sy'n ymddiried yn yr ARGLWYDD yn cael llawnder.
26בוטח בלבו הוא כסיל והולך בחכמה הוא ימלט׃
26 Y mae'r un sy'n ymddiried ynddo'i hun yn ynfyd, ond fe waredir y sawl sy'n dilyn doethineb.
27נותן לרש אין מחסור ומעלים עיניו רב מארות׃
27 Ni ddaw angen ar yr un sy'n rhoi i'r tlawd, ond daw llawer o felltithion ar yr un sy'n cau ei lygaid.
28בקום רשעים יסתר אדם ובאבדם ירבו צדיקים׃
28 Pan ddaw'r drygionus i awdurdod, bydd pobl yn ymguddio, ond ar �l eu difa, bydd y cyfiawn yn amlhau.