1חכמות בנתה ביתה חצבה עמודיה שבעה׃
1 Y mae doethineb wedi adeiladu ei thu375?, ac yn naddu ei saith golofn;
2טבחה טבחה מסכה יינה אף ערכה שלחנה׃
2 y mae wedi paratoi ei chig a chymysgu ei gwin a hulio ei bwrdd.
3שלחה נערתיה תקרא על גפי מרמי קרת׃
3 Anfonodd allan ei llancesau, ac ar uchelfannau'r ddinas y mae'n galw,
4מי פתי יסר הנה חסר לב אמרה לו׃
4 "Dewch yma, bob un sy'n wirion." Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr,
5לכו לחמו בלחמי ושתו ביין מסכתי׃
5 "Dewch, bwytewch gyda mi, ac yfwch y gwin a gymysgais.
6עזבו פתאים וחיו ואשרו בדרך בינה׃
6 Gadewch eich gwiriondeb, ichwi gael byw; rhodiwch yn ffordd deall."
7יסר לץ לקח לו קלון ומוכיח לרשע מומו׃
7 Dirmyg a gaiff yr un sy'n disgyblu gwatwarwr, a'i feio a gaiff yr un sy'n ceryddu'r drygionus.
8אל תוכח לץ פן ישנאך הוכח לחכם ויאהבך׃
8 Paid � cheryddu gwatwarwr, rhag iddo dy gas�u; cerydda'r doeth, ac fe'th g�r di.
9תן לחכם ויחכם עוד הודע לצדיק ויוסף לקח׃
9 Rho gyngor i'r doeth, ac fe �'n ddoethach; dysga'r cyfiawn, ac fe gynydda mewn dysg.
10תחלת חכמה יראת יהוה ודעת קדשים בינה׃
10 Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau doethineb, ac adnabod y Sanctaidd yw deall.
11כי בי ירבו ימיך ויוסיפו לך שנות חיים׃
11 Oherwydd trwof fi y cynydda dy ddyddiau, ac yr ychwanegir blynyddoedd at dy fywyd.
12אם חכמת חכמת לך ולצת לבדך תשא׃
12 Os wyt yn ddoeth, byddi ar dy elw; ond os wyt yn gwawdio, ti dy hun fydd yn dioddef.
13אשת כסילות המיה פתיות ובל ידעה מה׃
13 Y mae gwraig ff�l yn benchwiban, yn ddiddeall, heb wybod dim.
14וישבה לפתח ביתה על כסא מרמי קרת׃
14 Y mae'n eistedd wrth ddrws ei thu375?, ar fainc yn uchelfannau'r ddinas,
15לקרא לעברי דרך המישרים ארחותם׃
15 yn galw ar y rhai sy'n mynd heibio ac yn dilyn eu gorchwylion eu hunain:
16מי פתי יסר הנה וחסר לב ואמרה לו׃
16 "Dewch yma, bob un sy'n wirion." Y mae'n dweud wrth y rhai disynnwyr,
17מים גנובים ימתקו ולחם סתרים ינעם׃
17 "Y mae du373?r lladrad yn felys, a bara wedi ei ddwyn yn flasus."
18ולא ידע כי רפאים שם בעמקי שאול קראיה׃
18 Ond ni wyddant hwy mai meirwon yw'r rhai sydd yno, ac mai yn nyfnder Sheol y mae ei gwahoddedigion.