1ישב בסתר עליון בצל שדי יתלונן׃
1 Y mae'r sawl sy'n byw yn lloches y Goruchaf, ac yn aros yng nghysgod yr Hollalluog,
2אמר ליהוה מחסי ומצודתי אלהי אבטח בו׃
2 yn dweud wrth yr ARGLWYDD, "Fy noddfa a'm caer, fy Nuw, yr un yr ymddiriedaf ynddo."
3כי הוא יצילך מפח יקוש מדבר הוות׃
3 Oherwydd bydd ef yn dy waredu o fagl heliwr, ac oddi wrth bla difaol;
4באברתו יסך לך ותחת כנפיו תחסה צנה וסחרה אמתו׃
4 bydd yn cysgodi drosot �'i esgyll, a chei nodded dan ei adenydd; bydd ei wirionedd yn darian a bwcled.
5לא תירא מפחד לילה מחץ יעוף יומם׃
5 Ni fyddi'n ofni rhag dychryn y nos, na rhag saeth yn hedfan yn y dydd,
6מדבר באפל יהלך מקטב ישוד צהרים׃
6 rhag pla sy'n tramwyo yn y tywyllwch, na rhag dinistr sy'n difetha ganol dydd.
7יפל מצדך אלף ורבבה מימינך אליך לא יגש׃
7 Er i fil syrthio wrth dy ochr, a deng mil ar dy ddeheulaw, eto ni chyffyrddir � thi.
8רק בעיניך תביט ושלמת רשעים תראה׃
8 Ni fyddi ond yn edrych �'th lygaid ac yn gweld t�l y drygionus.
9כי אתה יהוה מחסי עליון שמת מעונך׃
9 Ond i ti, bydd yr ARGLWYDD yn noddfa; gwnaethost y Goruchaf yn amddiffynfa;
10לא תאנה אליך רעה ונגע לא יקרב באהלך׃
10 ni ddigwydd niwed i ti, ac ni ddaw pla yn agos i'th babell.
11כי מלאכיו יצוה לך לשמרך בכל דרכיך׃
11 Oherwydd rhydd orchymyn i'w angylion i'th gadw yn dy holl ffyrdd;
12על כפים ישאונך פן תגף באבן רגלך׃
12 byddant yn dy godi ar eu dwylo rhag iti daro dy droed yn erbyn carreg.
13על שחל ופתן תדרך תרמס כפיר ותנין׃
13 Byddi'n troedio ar y llew a'r asb, ac yn sathru'r llew ifanc a'r sarff.
14כי בי חשק ואפלטהו אשגבהו כי ידע שמי׃
14 "Am iddo lynu wrthyf, fe'i gwaredaf; fe'i diogelaf am ei fod yn adnabod fy enw.
15יקראני ואענהו עמו אנכי בצרה אחלצהו ואכבדהו׃
15 Pan fydd yn galw arnaf, fe'i hatebaf; byddaf fi gydag ef mewn cyfyngder, gwaredaf ef a'i anrhydeddu.
16ארך ימים אשביעהו ואראהו בישועתי׃
16 Digonaf ef � hir ddyddiau, a gwnaf iddo fwynhau fy iachawdwriaeth."